Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os ydych chi'n un sy'n cael eich cyfareddu gan bob agwedd ar y byd byw, byddwch yn ffynnu ar ein gradd BSc Bioleg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwch yn archwilio pob math o bynciau amrywiol sy’n ymwneud â chelloedd a moleciwlau a hefyd organebau cyfan.  Byddwch yn dysgu sut mae bioleg yn gallu cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd ymarferol sy’n gallu cyfrannu at wella ansawdd a chynaliadwyedd bywyd – pwnc sy’n hynod berthnasol i'r heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd. O broteinau i balod, mae ein gradd BSc Bioleg yn archwilio popeth sydd gan y byd byw i'w gynnig, ac fe welwch chi bod Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli yn un o’r mannau gorau posibl i ddatguddio a deall rhyfeddodau’r byd naturiol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Accredited Degree

Does dim rhaid i chi gyfyngu eich hun i un maes bioleg yn unig ar ein cwrs gradd BSc Bioleg. Gallwch fod yn astudio microbioleg yn y bore, ac yn ymchwilio i fywyd mewn twyni tywod yn y prynhawn. Mae strwythur ein cyrsiau gradd yn hyblyg ac yn caniatáu i chi gadw eich opsiynau'n agored neu arbenigo mewn un maes. 

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig, ymroddgar a chyfeillgar sydd ag arbenigedd ar draws yr ystod lawn o bynciau Biolegol. Nid darlithwyr yn unig yw ein staff, ond unigolion sy’n weithgar ym maes ymchwil, ac mae’r ymchwil hwn yn dylanwadau ar gynnwys ein cyrsiau, sy’n golygu eich bod chi’n elwa’r o’r wybodaeth ddiweddaraf. Rydym wedi buddsoddi’n helaeth a thros nifer o flynyddoedd yn ein cyfleusterau ymchwil, ac yn rhan o’r modiwl Prosiect Ymchwil, mae’n bosibl y cewch gyfle i weithio yn yr unedau ymchwil ar y prif gampws, neu yn ein cyfleuster ymchwil pwrpasol yng Ngogerddan ar gyrion Aberystwyth.  

Bydd eich astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan gyfoeth o waith labordy a dosbarthiadau maes sy'n meithrin sgiliau gwyddonol go iawn sy'n hanfodol ar gyfer eich dyfodol. Byddwch yn archwilio anatomeg a strwythur, ffisioleg ac ymddygiad ochr yn ochr â’r rhesymeg wyddonol ar gyfer anghenion trigfannau a rhyngweithiadau ecosystemau. Cwrs ymarferol yw hwn lle byddwch yn samplu, cofnodi a dadansoddi data yn ein labordai llawn cyfarpar yn ogystal ag allan yn y maes. Mae Aberystwyth wedi'i lleoli ymhlith bryniau, dyffrynnoedd coediog, gwlyptiroedd, glannau tywodlyd a chreigiog ac, wrth gwrs, dyfroedd perffaith Bae Ceredigion.  

Os hoffech astudio Bioleg gyda Gradd Meistr Integredig, yna edrychwch ar ein chwaer gwrs sydd â blwyddyn ychwanegol er mwyn caniatáu i chi gwblhau gradd Meistr, (C109). 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biotechnology BR35520 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Fish Biology, Fisheries and Aquaculture BR33220 20
Frontiers in Plant Science BR35820 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Parasitology BR33820 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Mae graddedigion diweddar yn gweithio i awdurdodau addysg, Asiantaeth yr Amgylchedd, sefydlaoedd cadwraeth, cwmnïau fferyllol, y GIG, canolfannau bywyd môr, labordai iechyd cyhoeddus a’r diwydiant dŵr, i enwi ond ychydig. 

Maent yn gweithio fel: 

  • gwyddonwyr ymchwil 
  • genetegyddion moleciwlaidd clinigol 
  • swyddogion cadwraeth natur 
  • Addysgwyr.

Gallai myfyrwyr sydd wedi graddio mewn Bioleg fynd ymlaen hefyd i gael hyfforddiant pellach ym maes: 

  • deintyddiaeth 
  • meddygaeth 
  • ysgrifennu am wyddoniaeth.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth Wasanaeth Gyrfaoedd rhagorol ac mae gennym ein Cynghorwr Gyrfaoedd proffesiynol, ymroddedig ein hunain. Mae gennym aelod o staff sy'n Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd i'r Adran hefyd ac rydym yn ymdrechu'n gyson i wreiddio a gwella'r gwaith o gyflwyno sgiliau'r byd go iawn ym mhob modiwl a gynigiwn. 

Pa sgiliau fydda i'n eu datblygu wrth astudio Bioleg? 

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data 
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch 
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth 
  • y gallu i weithio'n annibynnol 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser 
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth  
  • gweithio mewn tîm a’r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith sy'n cael eu rheoli gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Byddwch yn canolbwyntio ar ddilyniannu genomau cyfan, dadansoddi eu hesblygiad ac archwilio swyddogaeth genynnau unigol gan ddefnyddio dulliau dadansoddi sydd ar flaen y gad. Byddwch hefyd yn ystyried y cyfyng-gyngor moesegol a achosir gan y datblygiadau ym maes gwybodaeth fiolegol, megis yr hyn a geir gyda dulliau dadleuol o drin afiechydon, neu feddyginiaeth cenhedlu. Cewch gyfleoedd i ddefnyddio technegau moleciwlaidd gan gynnwys echdynnu DNA, dilyniannu a dadansoddi, ac elwa o’r arbenigedd dadansoddol uwch a geir yn yr Adran, o fiowybodeg a systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) i epidemioleg. Ein nod yw datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau arbrofi ac i'ch annog i feddwl mewn modd annibynnol, creadigol a beirniadol. 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau, o fiocemeg i esblygiad, o amrywiaeth bywyd I ecoleg. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynllunio i roi sylfaen gadarn ym maes Bioleg a’ch paratoi ar gyfer yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf a lle cewch gyfle i gael blas ar bynciau nad ydych chi wedi'u hystyried o'r blaen o bosib. 

Yn ystod yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf byddwch yn gallu dewis pynciau o blith amrywiaeth eang o fodiwlau - yr ystod ehangaf ymhlith ein holl gyrsiau gradd. Yn y blynyddoedd hyn, gallwch ddewis arbenigo, gan ddilyn llwybr i faes mwy moleciwlaidd neu amgylcheddol efallai gan ddewis modiwlau fel bioleg foleciwlaidd gymhwysol a biowybodeg neu arolygu ecolegol. Ar y llaw arall, gallwch gadw'ch opsiynau'n agored drwy gymysgu pynciau fel proteinau ac ensymau ac microbioleg iechyd a chadwraeth bywyd gwyllt. Mae'r ail ddull yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym myd addysg. Yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf byddwch hefyd yn gallu astudio ein cyrsiau maes sy'n amrywio o swoleg drofannol i ecoleg ddaearol. 

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch hefyd yn ymgymryd â'ch traethawd hir. Diolch i'r amrywiaeth o ymchwil a wneir yn Aberystwyth, ni chewch drafferth dod o hyd i brosiect sydd wir o ddiddordeb i chi ac sy'n adeiladu eich sgiliau gwyddonol. Gall y prosiectau fod yn rhai mewn labordy neu yn y maes, neu'n astudiaethau dadansoddi data, ond maent i gyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau dadansoddi uwch. Gallech fod yn astudio parasitiaid, bridio planhigion, ymddygiad adar, neu ganser, i enwi dim ond rhai.  

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Nid darlithoedd ac arholiadau yw popeth yma yn Aberystwyth. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar waith maes ac ymarferol er mwyn gadael i chi faeddu eich dwylo ac adeiladu sgiliau ymarferol a dadansoddol. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer dilyn gyrfa ym maes Biowyddorau ac addysgu, ond maent hefyd yn gwneud graddedigion Bioleg yn bobl ddeniadol i gyflogwyr mewn llawer o sectorau eraill. Mae seminarau, tiwtorialau a chyrsiau maes preswyl hefyd yn chwarae rôl wrth addysgu yma. Ein nod yw gwneud popeth a wnawn yn gwbl hygyrch i bawb, ac mae ein staff addysgu a'n staff cymorth yn ymroddedig i hyn. 

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Wrth gwrs, mae'n rhaid sefyll arholiadau, ond mae gan bob modiwl fwy nag un math o asesiad. Mae asesiadau gwaith cwrs yn amrywio o adroddiadau ymarferol neu adroddiadau maes i ysgrifennu erthyglau sy'n gweddu i gyfnodolyn a gwneud podlediadau. Mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio nid yn unig i brofi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth, maent hefyd yn adeiladu sgiliau ar gyfer y byd go iawn, er enghraifft sgiliau gwaith tîm, cyflwyno ac ysgrifennu adroddiadau sydd eu hangen mewn unrhyw swydd raddedig. Pan fyddwn yn addysgu ac yn arholi, rydym yn anelu at greu gwyddonwyr y dyfodol a darpar gyflogeion o'r radd flaenaf ar yr un pryd. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu i chi, a’r tiwtor hwn fydd eich prif berson cyswllt yn ystod eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yn gallu cynnig cymorth wth ichi ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd yma gyntaf, ac fe fydd ar gael i'ch cynorthwyo gydag unrhyw beth yn dilyn hynny, ar lefel academaidd neu bersonol. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'n wych, rwy'n cael astudio ystod eang o bynciau sy'n fy ngalluogi i deilwra fy modiwlau i'm chwaeth fy hun a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'm diddordebau a'm hanghenion. Elizabeth Smith

Mae'n bwnc eang iawn ac mae'n darparu ar gyfer diddordebau unrhyw un sy'n dymuno astudio bioleg. Mae'r modiwlau yn yr ail flwyddyn yn eich galluogi i arbenigo mewn meysydd pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae hyblygrwydd y cynllun gradd yn ddeniadol iawn i ddarpar fyfyrwyr nad ydyn nhw'n siŵr eto ble mae eu gwir ddiddordebau. Mae'r elfennau ymarferol yn amrywiol ac wedi'u gwasgaru'n dda dros y flwyddyn academaidd ac yn atgyfnerthu'r deunydd darlithio. Jodie Ackland

Bioleg yw'r astudiaeth o fywyd. I mi, dyna'r astudiaeth bwysicaf i gyd. O'r Archaea lleiaf mewn amodau eithafol i drwch ac amrywiaeth fforestydd glaw, mae Bioleg yn cwmpasu'r cyfan gyda manylder anghredadwy a brwdfrydedd gwych, yn enwedig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r addysgu yn Aberystwyth wedi caniatáu i mi archwilio agweddau ar fioleg sy'n fy nghyfareddu, ac wedi rhoi cyfle i mi feithrin sgiliau a fydd yn fy helpu i lwyddo i ddilyn gyrfa sydd o ddiddordeb i mi. Bioleg yn Aberystwyth: Ni fyddwn i'n gwneud unrhyw ddewis arall. Matthew Collins

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|