BSc

Bioleg

Os ydych chi'n un sy'n cael eich cyfareddu gan bob agwedd ar y byd byw, byddwch yn ffynnu ar ein gradd BSc Bioleg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwch yn archwilio pob math o bynciau amrywiol sy’n ymwneud â chelloedd a moleciwlau a hefyd organebau cyfan. Byddwch yn dysgu sut mae bioleg yn gallu cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd ymarferol sy’n gallu cyfrannu at wella ansawdd a chynaliadwyedd bywyd – pwnc sy’n hynod berthnasol i'r heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd. O broteinau i balod, mae ein gradd BSc Bioleg yn archwilio popeth sydd gan y byd byw i'w gynnig, ac fe welwch chi bod Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli yn un o’r mannau gorau posibl i ddatguddio a deall rhyfeddodau’r byd naturiol. 

Cynlluniwyd y cwrs pedair blynedd hwn ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd ddigonol neu berthnasol. Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dysgu’r sgiliau academaidd y mae eu hangen i astudio cwrs gradd israddedig, a fydd yn caniatáu ichi ddilyn y cwrs gradd llawn â hyder.

Trosolwg o'r Cwrs

Following the Foundation Year, the remaining syllabus of the course is identical to its sister course, BSc Biology (C100)

On our BSc Biology degree course, you won’t have to limit yourself to just one area of Biology. You might be studying microbiology in the morning, and investigating the life found in sand dunes in the afternoon. Our degree structure is flexible and gives you the opportunity to keep your options open or to specialise. 

You will be taught by passionate, engaged, and friendly staff who have expertise across the full range of Biology topics. Our staff are not only lecturers but also active researchers and their research interests feed into our courses, meaning that you will benefit from the very latest information. We have invested heavily in our research facilities over many years, and as part of the Research Project module, you may get the opportunity to work in the research units on the main campus, or in our dedicated research facility at Gogerddan just outside Aberystwyth. 

Your academic studies will be bolstered by a wealth of laboratory and field classes which build real scientific skills essential for your future career. You will explore anatomy and structure, physiology and behaviour, alongside the scientific rationales for habitat requirements and ecosystem interactions. This is a practical course where you will sample, record and analyse data in our excellent, well-equipped laboratories as well as out in the field. Aberystwyth is situated amongst hills, wooded valleys, wetlands, sandy and rocky shores and, of course, alongside the pristine waters of Cardigan Bay. 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication Skills BR01520 20
Molecules and Cells BR01340 40
Organisms and the Environment BR01440 40
Practical Skills for Biologists BR01220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biotechnology BR35520 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Fish Biology, Fisheries and Aquaculture BR33220 20
Freshwater Biology Field Course BR37720 20
Frontiers in Plant Science BR35820 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Parasitology BR33820 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Mae graddedigion diweddar yn gweithio i awdurdodau addysg, Asiantaeth yr Amgylchedd, sefydlaoedd cadwraeth, cwmnïau fferyllol, y GIG, canolfannau bywyd môr, labordai iechyd cyhoeddus a’r diwydiant dŵr, i enwi ond ychydig. 

Maent yn gweithio fel: 

  • gwyddonwyr ymchwil 
  • genetegyddion moleciwlaidd clinigol 
  • swyddogion cadwraeth natur 
  • Addysgwyr.

Gallai myfyrwyr sydd wedi graddio mewn Bioleg fynd ymlaen hefyd i gael hyfforddiant pellach ym maes:

  • deintyddiaeth 
  • meddygaeth 
  • ysgrifennu am wyddoniaeth.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth Wasanaeth Gyrfaoedd rhagorol ac mae gennym ein Cynghorwr Gyrfaoedd proffesiynol, ymroddedig ein hunain. Mae gennym aelod o staff sy'n Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd i'r Adran hefyd ac rydym yn ymdrechu'n gyson i wreiddio a gwella'r gwaith o gyflwyno sgiliau'r byd go iawn ym mhob modiwl a gynigiwn.

Pa sgiliau fydda i'n eu datblygu wrth astudio Bioleg?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data 
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch 
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth 
  • y gallu i weithio'n annibynnol 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser 
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth  
  • gweithio mewn tîm a’r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith sy'n cael eu rheoli gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn datblygu’r sgiliau academaidd y bydd eu hangen arnoch i astudio cwrs gradd israddedig. Yn dilyn y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn astudio’r un peth â’r myfyrwyr ar y cwrs Bioleg C100. Mae’r wybodaeth sy’n dilyn, felly, yn cyfeirio at Flwyddyn 2-4 o’ch amser yn Aberystwyth.  

Ar y cwrs gradd hwn, byddwch yn canolbwyntio ar ddilyniannu genomau cyfan, dadansoddi eu hesblygiad ac archwilio swyddogaeth genynnau unigol gan ddefnyddio dulliau dadansoddi sydd ar flaen y gad. Byddwch hefyd yn ystyried y cyfyng-gyngor moesegol a achosir gan y datblygiadau ym maes gwybodaeth fiolegol, megis yr hyn a geir gyda dulliau dadleuol o drin afiechydon, neu feddyginiaeth cenhedlu. Cewch gyfleoedd i ddefnyddio technegau moleciwlaidd gan gynnwys echdynnu DNA, dilyniannu a dadansoddi, ac elwa o’r arbenigedd dadansoddol uwch a geir yn yr Adran, o fiowybodeg a systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) i epidemioleg. Ein nod yw datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau arbrofi ac i'ch annog i feddwl mewn modd annibynnol, creadigol a beirniadol. 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau, o fiocemeg i esblygiad, o amrywiaeth bywyd I ecoleg. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynllunio i roi sylfaen gadarn ym maes Bioleg a’ch paratoi ar gyfer yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf a lle cewch gyfle i gael blas ar bynciau nad ydych chi wedi'u hystyried o'r blaen o bosib. 

Yn ystod yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf byddwch yn gallu dewis pynciau o blith amrywiaeth eang o fodiwlau - yr ystod ehangaf ymhlith ein holl gyrsiau gradd. Yn y blynyddoedd hyn, gallwch ddewis arbenigo, gan ddilyn llwybr i faes mwy moleciwlaidd neu amgylcheddol efallai gan ddewis modiwlau fel bioleg foleciwlaidd gymhwysol a biowybodeg neu arolygu ecolegol. Ar y llaw arall, gallwch gadw'ch opsiynau'n agored drwy gymysgu pynciau fel proteinau ac ensymau ac microbioleg iechyd a chadwraeth bywyd gwyllt. Mae'r ail ddull yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym myd addysg. Yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf byddwch hefyd yn gallu astudio ein cyrsiau maes sy'n amrywio o swoleg drofannol i ecoleg ddaearol. 

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch hefyd yn ymgymryd â'ch traethawd hir. Diolch i'r amrywiaeth o ymchwil a wneir yn Aberystwyth, ni chewch drafferth dod o hyd i brosiect sydd wir o ddiddordeb i chi ac sy'n adeiladu eich sgiliau gwyddonol. Gall y prosiectau fod yn rhai mewn labordy neu yn y maes, neu'n astudiaethau dadansoddi data, ond maent i gyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau dadansoddi uwch. Gallech fod yn astudio parasitiaid, bridio planhigion, ymddygiad adar, neu ganser, i enwi dim ond rhai.  

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Nid darlithoedd ac arholiadau yw popeth yma yn Aberystwyth. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar waith maes ac ymarferol er mwyn gadael i chi faeddu eich dwylo ac adeiladu sgiliau ymarferol a dadansoddol. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer dilyn gyrfa ym maes Biowyddorau ac addysgu, ond maent hefyd yn gwneud graddedigion Bioleg yn bobl ddeniadol i gyflogwyr mewn llawer o sectorau eraill. Mae seminarau, tiwtorialau a chyrsiau maes preswyl hefyd yn chwarae rôl wrth addysgu yma. Ein nod yw gwneud popeth a wnawn yn gwbl hygyrch i bawb, ac mae ein staff addysgu a'n staff cymorth yn ymroddedig i hyn. 

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Wrth gwrs, mae'n rhaid sefyll arholiadau, ond mae gan bob modiwl fwy nag un math o asesiad. Mae asesiadau gwaith cwrs yn amrywio o adroddiadau ymarferol neu adroddiadau maes i ysgrifennu erthyglau sy'n gweddu i gyfnodolyn a gwneud podlediadau. Mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio nid yn unig i brofi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth, maent hefyd yn adeiladu sgiliau ar gyfer y byd go iawn, er enghraifft sgiliau gwaith tîm, cyflwyno ac ysgrifennu adroddiadau sydd eu hangen mewn unrhyw swydd raddedig. Pan fyddwn yn addysgu ac yn arholi, rydym yn anelu at greu gwyddonwyr y dyfodol a darpar gyflogeion o'r radd flaenaf ar yr un pryd. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu i chi, a’r tiwtor hwn fydd eich prif berson cyswllt yn ystod eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yn gallu cynnig cymorth wth ichi ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd yma gyntaf, ac fe fydd ar gael i'ch cynorthwyo gydag unrhyw beth yn dilyn hynny, ar lefel academaidd neu bersonol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 48

Safon Uwch Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC diploma) in subject areas other than biological science, and to mature-aged candidates who have the required GCSEs, experience and motivation.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
(minimum grade C/4): English or Welsh, Mathematics and Science

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to those who are studying for, or who have completed the Extended Level 3 BTEC diploma in subject areas other than biological science, or who have taken a BTEC certificate or diploma in any subject, and to mature-aged candidates who have the required GCSE subjects, experience and motivation.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to those who are studying for, or who have completed an international baccalaureate in subject areas other than higher level biological science, and to mature-aged candidates who have the required GCSE subjects (or equivalent), experience and motivation.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to those who are studying for, or who have completed the European Baccalaureate in subject areas other than 4p biological science and to mature-aged candidates who have the required GCSE subjects (or equivalent), experience and motivation.

Gofynion Iaith Saesneg See our Undergraduate English Language Requirements (https://www.aber.ac.uk/en/study-with-us/international/english-requirements/ug-english-requirements/) for this course. Pre-sessional English Programmes (https://www.aber.ac.uk/en/international-english/courses/te/) are also available for students who do not meet our English Language Requirements.

Gofynion Eraill Our inclusive admissions policy values breadth as well as depth of study. Applicants are selected on their own individual merits and offers can vary. If you would like to check the eligibility of your qualifications before submitting an application, please contact the Undergraduate Admissions Office for advice and guidance.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|