Pam astudio Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Ar ôl astudio'r Flwyddyn Sylfaen, mae maes llafur y cwrs sy'n weddill yn union yr un fath â'i chwaer gwrs, BSc Bioleg (C100);
- Mae Aberystwyth wedi'i lleoli ymhlith bryniau, dyffrynnoedd coediog, gwlyptiroedd, glannau tywodlyd a chreigiog ac, wrth gwrs, dyfroedd perffaith Bae Ceredigion;
- Gallwch fod yn astudio microbioleg yn y bore, ac yn ymchwilio i fywyd mewn twyni tywod yn y prynhawn. Does dim rhaid i chi gyfyngu eich hun i un maes Bioleg yn unig. Gallwch gadw eich opsiynau'n agored neu arbenigo mewn un maes. Mae strwythur ein cwrs gradd yn caniatáu i chi wneud y naill beth neu'r llall;
- Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig, ymroddgar a chyfeillgar sydd ag arbenigedd ar draws yr ystod lawn o bynciau Biolegol;
- Bydd eich astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan gyfoeth o waith labordy a dosbarthiadau maes sy'n meithrin sgiliau gwyddonol go iawn sy'n hanfodol ar gyfer eich dyfodol;
- Mae ein cyfleusterau addysgu ac E-ddysgu yn rhoi profiad dysgu rhagorol i chi gan integreiddio'r sesiynau dosbarth a storfa enfawr o adnoddau astudio;
- Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a all eich arwain dros eich cyfnod yn Aberystwyth a'ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd yma gyntaf;
- Rydym wedi buddsoddi'n helaeth a thros nifer o flynyddoedd yn ein cyfleusterau ymchwil, a gall myfyrwyr prosiect gael cyfle i weithio yn yr unedau ymchwil ar Benglais, neu yn ein cyfleuster ymchwil pwrpasol yng Ngogerddan ar gyrion Aberystwyth.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Pa opsiynau sydd ar gael i mi ar ôl graddio?
Mae ein graddedigion yn ymgeiswyr cryf yn y meysydd canlynol:
- Gwyddonydd ymchwil;
- Genetegydd moleciwlaidd clinigol;
- Swyddog cadwraeth natur;
- Addysg.
Gallai myfyrwyr sydd wedi graddio mewn Bioleg fynd ymlaen hefyd i gael hyfforddiant pellach ym maes:
- Deintyddiaeth;
- Meddygaeth;
- Awduron gwyddoniaeth.
Mae gan y Brifysgol Wasanaeth Gyrfaoedd rhagorol ac mae gennym ein Cynghorwr Gyrfaoedd proffesiynol, ymroddedig ein hunain. Mae gennym aelod o staff sy'n Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd i IBERS hefyd ac rydym yn ymdrechu'n gyson i wreiddio a gwella'r gwaith o gyflwyno sgiliau'r byd go iawn ym mhob modiwl a gynigiwn.
Pa sgil fydda i'n ei ddatblygu wrth astudio Bioleg?
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:
- Sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
- Sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
- Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
- Sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
- Y gallu i weithio'n annibynnol;
- Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
- Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
- Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
- Y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a Chynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn cael eich cyflwyno i ddamcaniaeth ac ymarfer Biolegol sylfaenol.
Yn ystod blwyddyn gyntaf eich cwrs gradd, byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau, o Fiocemeg i Amrywiaeth Anifeiliaid, o Amrywiaeth Microbau i Lystyfiant ac Ecosystemau. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynllunio i roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn, a rhoi cyfle i chi gael blas ar bynciau nad ydych chi wedi'u hystyried o'r blaen o bosib.
Cynigir amrywiaeth eang o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, mwy nag mewn unrhyw gynllun arall a gynigiwn. Yn y blynyddoedd hyn, gallwch ddewis arbenigo, gan ddilyn llwybr i faes mwy moleciwlaidd neu amgylcheddol efallai gan ddewis modiwlau fel Bioleg Foleciwlaidd Gymhwysol a Biowybodeg neu Arolygu Ecolegol. Ar y llaw arall, gallwch gadw'ch opsiynau'n agored drwy gymysgu pynciau fel Biocemeg a Ffarmacoleg gydag Ecoleg Gymunedol a Phoblogaeth. Mae'r ail ddull yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym myd addysg. Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddwch hefyd yn gallu astudio ein cyrsiau maes sy'n amrywio o Swoleg Drofannol i Ymddygiad Anifeiliaid.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch hefyd yn ymgymryd â'ch traethawd hir. Diolch i'r amrywiaeth o ymchwil a wneir yn IBERS, bydd modd i chi ddod o hyd i brosiect sydd wir o ddiddordeb i chi ac sy'n adeiladu eich sgiliau gwyddonol. Gall y prosiectau fod yn rhai mewn labordy neu yn y maes, neu'n astudiaethau dadansoddi data, ond maent i gyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau dadansoddi uwch. Gallech fod yn astudio parasitiaid, bridio planhigion, ymddygiad adar, neu ganser, i enwi dim ond rhai.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Nid darlithoedd ac arholiadau yw popeth yma yn Aberystwyth. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar waith maes ac ymarferol er mwyn gadael i chi faeddu eich dwylo ac adeiladu sgiliau ymarferol a dadansoddol. Mae'r sgiliau'n hanfodol ar gyfer dilyn gyrfa ym maes Biowyddorau ac addysgu, ond maent hefyd yn gwneud graddedigion Bioleg yn bobl ddeniadol i gyflogwyr mewn llawer o sectorau eraill. Mae seminarau, tiwtorialau a chyrsiau maes preswyl hefyd yn chwarae rôl wrth addysgu yma.
Mae ein hamgylchedd E-ddysgu datblygedig yn cipio pob darlith i chi eu hail-wylio yn eich amser hamdden, ac yn cynnwys amrywiaeth eang o gynnwys ym mhob fformat. Mae gennym dîm Cymorth i Fyfyrwyr ardderchog yn Aberystwyth a all helpu i drefnu adnoddau addysgu ychwanegol a dewisiadau amgen i'r myfyrwyr hynny sydd eu hangen. Ein nod yw gwneud popeth a wnawn yn gwbl hygyrch i bawb, ac mae ein staff addysgu a'n staff cymorth yn ymroddedig i hyn.
Wrth gwrs, mae'n rhaid sefyll arholiadau weithiau, ond mae gan bob modiwl fwy nag un math o asesiad. Yn y rhan fwyaf o fodiwlau, mae gwaith cwrs yn rhan sylweddol o'r marciau (hyd at 50% fel arfer, er bod rhai modiwlau sy'n cael eu hasesu'n gyfan gwbl ar waith cwrs). Mae asesiadau gwaith cwrs yn amrywio o adroddiadau ymarferol neu adroddiadau maes i ysgrifennu erthyglau sy'n gweddu i gyfnodolyn a gwneud podlediadau.
Mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio nid yn unig i brofi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth, maent hefyd yn adeiladu sgiliau ar gyfer y byd go iawn, er enghraifft sgiliau gwaith tîm, cyflwyno ac ysgrifennu adroddiadau sydd eu hangen mewn unrhyw swydd raddedig. Pan fyddwn yn addysgu ac yn arholi, rydym yn anelu at greu gwyddonwyr y dyfodol a darpar gyflogeion o'r radd flaenaf ar yr un pryd.