BSc

Busnes a Rheolaeth

Wedi’i gynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd ddigonol neu berthnasol, mae’r cwrs gyda blwyddyn sylfaen integredig yn ddewis perffaith i gael mynediad at y cynllun gradd hynod boblogaidd hwn yn Ysgol Fusnes Aberystwyth. Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi ichi sail academaidd gadarn - y fframweithiau, y cysyniadau a’r sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn symud ymlaen yn llwyddiannus trwy’r radd lawn BSc Busnes a Rheolaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Trwy astudio’r cwrs hwn, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu rheolwyr, a’r effeithiau economaidd, cyllidol, dynol a chyfreithiol y mae rheolwyr yn mynd i’r afael â nhw bob dydd. Byddwch yn dysgu sut i ymateb trwy ddatblygu’ch gwybodaeth o hanfodion busnes yn cynnwys rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol, strategaeth busnes a gweithdrefnau, marchnata a dadansoddi data busnes. Byddwch hefyd yn datblygu’r sgiliau i ddadansoddi materion rheolaeth sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau cwmnïau, ffactorau allanol ac arfer da cyfredol.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Busnes a Rheolaeth (gyda blwyddyn sylfaen integredig) yn Aberystwyth:

  • gweithio gyda busnesau yn y gymuned leol a’r tu hwnt er mwyn datblygu sgiliau ymarferydd i ategu’ch cynnydd academaidd
  • dysgu gan ddarlithwyr sydd â phrofiad eang ym maes busnes a rheolaeth yn ogystal â diddordebau ymchwil sy’n rhan annatod o’r dysgu.


Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Financial Strategy AB31720 20
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership AB35120 20

Gyrfaoedd

Bydd y radd mewn Busnes a Rheolaeth yn caniatáu ichi ddewis o blith ystod eang o swyddi ym maes busnes, diwydiant a masnach, neu yn y sector cyhoeddus. Mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith mewn sefydliadau yn cynnwys Goldman Sachs, PricewaterhouseCoopers, Llywodraeth Cymru a Marks & Spencer.

Dysgu ac Addysgu

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2/Academic Skills Foundation 1 & 2
  • Economics, Finance and Accounting for Business
  • Information Technology for University Students
  • Introduction to Statistics
  • The Mathematics Driving Licence.

Yr ail flwyddyn:

  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes/Fundamentals of Management and Business
  • Understanding the Economy
  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid/Fundamentals of Accounting and Finance
  • Data Analytics.

Y drydedd flwyddyn:

  • Rheolaeth Marchnata/Marketing Management
  • Rheolaeth Adnoddau Dynol/Human Resource Management
  • Gweithrediadau a Rheoli’r Gadwyn Cyflenwi/Operations and Supply Chain Management
  • Entrepreneuriaeth a Chreu Menter Newydd/Entrepreneurship and New Venture Creation
  • Dulliau Ymchwil/Research Methods.

Y flwyddyn olaf:

  • Arweinyddiaeth Strategol/Strategic Leadership
  • Digital Business, Leadership and Management
  • Financial Strategy
  • Organisational Psychology
  • Traethawd Hir/Dissertation.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|