BSc

Busnes a Rheolaeth

Busnes a Rheolaeth Cod N12F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.

Mae byd menter yn addasu o hyd. Gall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes o ran digwyddiadau economaidd, newidiadau mewn arferion cyfrifeg, newidiadau o ran rheoleiddio a’r amgylchedd cyfreithiol, penderfyniadau marchnata a datblygu strategaethau busnes olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu i gwmni.

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, byddwch yn dysgu sut i ymateb i’r digwyddiadau hyn drwy ddatblygu eich gwybodaeth am elfennau hanfodol y byd busnes, gan gynnwys rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol, strategaeth a gweithrediadau busnes, marchnata, a dadansoddi data busnes. Bydd ein tîm o academyddion arbenigol a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant yn datblygu eich dealltwriaeth o reolaeth ym maes busnes a masnach yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Trosolwg o'r Cwrs

Ar ôl y flwyddyn sylfaen, mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â Busnes a Rheolaeth, N122.  

Pam astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu maes rheoli ac effaith gyfun y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae rheolwyr yn ymdrin â hwy o ddydd i ddydd. Byddwch hefyd yn datblygu’r sgiliau i ddadansoddi materion rheoli yng nghyswllt blaenoriaethau’r cwmni, ffactorau allanol a’r hyn a ystyrir yn “arfer da” ar hyn o bryd.

Byddwch yn elwa o:

  • weithio gyda busnesau yn y gymuned leol ac yn ehangach i ddatblygu eich sgiliau fel ymarferwr a chynorthwyo eich datblygiad academaidd
  • cael eich dysgu gan ddarlithwyr sydd ag amrywiaeth eang o brofiad busnes a rheolaeth a diddordebau ymchwil sy’n cael eu cyfuno â’r addysgu.

Ar ôl gorffen y radd hon, byddwch yn meddu ar y canlynol:

  • dealltwriaeth eang o reoli ymarferol
  • dealltwriaeth fanwl o fasnach yn y sector cyhoeddus a phreifat
  • dealltwriaeth gadarn o gymhlethdodau heriau rheoli, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae arweinwyr yn eu hwynebu.
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Financial Strategy AB31720 20
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Gyrfaoedd

Bydd gradd mewn Busnes a Rheolaeth yn eich galluogi i ddethol o amrywiaeth o opsiynau gyrfa drwy’r byd busnes, diwydiant a masnach, neu i weithio yn y sector cyhoeddus. Mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i gyflogaeth lwyddiannus fel rheolwyr iau mewn sefydliadau rhyngwladol neu gwmnïau amlwladol fel Goldman Sachs, PricewaterhouseCoopers, Llywodraeth Cymru a Marks & Spencer.

Mae ein graddedigion yn gweithio ac yn llwyddiannus mewn nifer o sectorau:

  • Cyfrifo Siartredig
  • Bancio Buddsoddi
  • Yswirio
  • Gwarantu
  • Rheoli Risg
  • Rheoli Marchnata
  • Rheoli Masnachol
  • Rheoli Logisteg a Dosbarthu.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Rheolaeth a Busnes yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • dealltwriaeth o strwythur ac ymddygiad sefydliadol
  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • gwneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn y flwyddyn sylfaen, cewch gyflwyniad i:  

  • Elfennau craidd Busnes a Rheolaeth.  

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:  

  • egwyddorion sylfaenol rheolaeth 
  • dynameg yr amgylchedd busnes modern 
  • defnydd o wybodaeth ariannol a chyfrifo mewn penderfyniadau rheoli ar lefelau gweithredol a strategol 
  • egwyddorion marchnata. 

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn archwilio:  

  • theori ac ymddygiad sefydliadol 
  • damcaniaethau a thechnegau rheoli gweithrediadau 
  • strwythurau'r farchnad a strategaethau prisio 
  • y sgiliau, y teclynnau dadansoddi a'r technegau i nodi a mynd i'r afael â phroblemau a chyfleoedd ym meysydd marchnata a rheoli busnes.  

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio: 

  • y strategaeth fusnes a sut mae'n gweithredu'n fewnol ac yn allanol i'r amgylchedd busnes; 
  • rheoli adnoddau dynol 
  • dealltwriaeth o'r meddylfryd rheoli presennol, o safbwynt ymarferol a damcaniaethol 
  • prosiect ymchwil annibynnol gorfodol a fydd yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn agwedd benodol ar farchnata a rheoli busnes.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|