BA

Astudiaethau Celtaidd

Mae'r cynllun gradd BA Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyfle i chi astudio'r Gymraeg ar y cyd ag ieithoedd Celtaidd eraill, gan gynnwys yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban, a Llydaweg. Cewch gyfle hefyd i astudio eu llenyddiaeth o'r cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern. Cewch gyfle i wella eich sgiliau siarad ac ysgrifennu yn yr ieithoedd modern, a darllen testunau yn ieithoedd y canol oesoedd a'r cyfnod modern cynnar, ochr yn ochr â dysgu am ieithoedd a diwylliannau'r hen Geltiaid, a sut y bu iddynt gyfrannu at greu'r Ewrop fodern. 

Bydd cyfle i dreulio tymor dramor yn un o'n sefydliadau partner yn Iwerddon, Llydaw neu mewn rhan arall o Ewrop. 

Cynlluniwyd y cwrs Astudiaethau Celtaidd i fod ar gael i'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r ieithoedd Celtaidd. 

Sylwch: Cwrs a ddarperir yn rhannol drwy gyfrwng Saesneg yw hwn. Y cwrs 100% cyfrwng Cymraeg cyfatebol yw Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd (Q562)

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Astudiaethau Celtaidd yn bwnc hynod ddifyr, a bydd y radd bedair blynedd hon yn rhoi ichi ddealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant, llenyddiaeth, hanes ac ieithoedd Prydain, Iwerddon, Ewrop a'r tu hwnt o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Yn ogystal â dod â byd y pobloedd Celtaidd yn fyw, bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi ichi'r cyfle i astudio ieithoedd Celtaidd penodol. 

Mae Aberystwyth yn enwog am ei ymrwymiad i fforiadau i fyd Astudiaethau Celtaidd a hwn yw'r lleoliad delfrydol i'r rhai sy'n dymuno datblygu eu diddordeb yn y pwnc hwn. Fe'i ceir yng nghanol Cymru, lle mae'r canoloesol a’r modern yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd yn gyfforddus. Lle well i astudio’r Gymraeg ynghyd â rhai o ieithoedd eraill hynaf Ewrop. 

Does dim rhaid ichi fod yn rhugl yn y Gymraeg na’r Wyddeleg i astudio'r cwrs Celtic Studies gan mai cwrs cyfrwng Saesneg yw hwn. Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd (Q562) yw'r cwrs cyfrwng-Cymraeg cyfatebol. 

O ddewis astudio Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, byddwch yn ymuno ag adran sydd ymhlith y rhai sydd â'r amgylchedd academaidd ac ysgolheigaidd bywiocaf yn y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd. Cewch eich dysgu gan dîm o arbenigwyr ysbrydoledig sy'n arwain y byd ym maes iaith a diwylliant Cymreig a Gwyddelig, ac fe gewch ddewis o blith ystod hynod ddiddorol o fodiwlau sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr. Cewch hefyd gyfle i wneud cais am ysgoloriaeth i astudio cwrs iaith dwys yn Iwerddon, diolch i Lywodraeth Iwerddon. 

Yn ategol at eich astudiaethau, cewch fanteisio ar raglen o ddigwyddiadau ysgogol drwy fynychu cyfoeth o ddarlithoedd cyhoeddus, nosweithiau lansio llyfrau, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Adran ei hun a'r tu allan iddi. Cewch hefyd fanteisio ar y casgliadau prin o lenyddiaeth a geir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd ar stepen drws Campws Penglais, a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma.  


Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginning Modern Welsh 1 WE11220 20
Beginning Welsh ii WE11320 20
Introduction to Welsh Literature WE11420 20
Introduction to the Literature of Gaelic Ireland IR11720 20
Cymru a'r Celtiaid GC11820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg Llafar CY13020 20
Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg CY10920 20
Ysgrifennu Cymraeg Graenus CY11720 20
Modern Irish Language and Literature for Non-Beginners IR11220 20
Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad GC10120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sgiliau Astudio Iaith a Llên CY13120 20
Ymwneud â'ch pwnc yn Gymraeg: sgiliau dwyieithog ar gyfer y brifysgol a'r gweithle CY11020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Modern Irish (Language and Literature) IR22320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith yr Ail Iaith CY31120 20
Modern Irish (Language and Literature) 3+4 IR32520 20

Gyrfaoedd

Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau:

  • ymchwilio a dadansoddi data
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
  • gweithio’n annibynnol
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser tynn
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
  • sgiliau technoleg gwybodaeth.

Beth fydda i'n gallu ei wneud gyda gradd mewn Astudiaethau Celtaidd?

Mae sawl maes yn gwerthfawrogi'r hyfforddiant eang yn y Dyniaethau a'r cyswllt â chysyniadau diwylliannol a hanesyddol a gynigir gan gwrs gradd fel Astudiaethau Celtaidd. Cewch gyfle i ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs i'r eithaf yn eich dewis yrfa.

Mae graddedigion y radd Astudiaethau Celtaidd yn canfod gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys addysg, gweinyddu, y cyfryngau a'r sector cyhoeddus, yma a thramor.

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu hefyd yn sail gadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Pa gyfleoedd fydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Cewch wella eich cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith a reolir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Rydym yn cynnig modiwlau Cymraeg a Gwyddeleg, ond cewch hefyd ddewis astudio ac ymchwilio i ieithoedd megis Gaeleg yr Alban, Breton a Manx a'r diwylliant Geltaidd ehangach. Diben y radd pedair blynedd hon yw eich annog i archwilio'ch diddordebau eich hun mewn meysydd megis: 

  • llenyddiaeth Gymraeg  
  • barddoniaeth menywod yn Iwerddon, yr Alban a Chymru 
  • llenyddiaeth saga Wyddelig gynnar  
  • ieitheg Geltaidd gymharol  
  • barddoniaeth farddaidd Aeleg   
  • hen Wyddeleg a Chymraeg ganol  
  • y Mabinogion  
  • llenyddiaeth Geltaidd am y tirlun 
  • Brenin Arthur y Cymry.  

Yn y flwyddyn gyntaf cewch gyfle i ysytyried cwestiynau mawr yn ymwneud â hunaniaeth, diwylliant a llenyddiaeth. Cewch hefyd eich cyflwyno i iaith Geltaidd fodern. 

Yn ystod y blynyddoedd eraill byddwch yn canolbwyntio ar ehangu ac atgyfnerthu eich gwybodaeth am yr ieithoedd Celtaidd - y cyfoes a'r hen - a llenyddiaeth a diwylliant y Celtiaid o'r hanes cyntaf hyd heddiw. 

Sut bydda i’n cael fy addysgu? 

Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.  

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Bydd eich gwaith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu rhoi cymorth ichi gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â’ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-CCC gyda thystiolaeth o allu ieithyddol

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda thystiolaeth o allu ieithyddol

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26 gyda thystiolaeth o allu ieithyddol

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda thystiolaeth o allu ieithyddol

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|