Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae Astudiaethau Celtaidd yn bwnc hynod ddifyr, a bydd y radd bedair blynedd hon yn rhoi iti ddealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant, llenyddiaeth, hanes ac ieithoedd Prydain, Iwerddon, Ewrop a'r tu hwnt o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Yn ogystal â dod â byd y pobloedd Celtaidd yn fyw, bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi iti'r cyfle i astudio ieithoedd Celtaidd penodol.
Mae Aberystwyth yn enwog am ei ymrwymiad i fforiadau i fyd Astudiaethau Celtaidd a hwn yw'r lleoliad delfrydol i'r rhai sy'n dymuno datblygu eu diddordeb yn y pwnc hwn. Fe'i ceir yng nghanol Cymru, lle mae'r canoloesol a’r modern yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd yn gyfforddus.
Does dim rhaid iti fod yn rhugl yn Gymraeg neu Wyddeleg i astudio'r cwrs Celtic Studies gan mai cwrs cyfrwng Saesneg yw hwn. Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd (Q562) yw'r cwrs cyfrwng-Cymraeg cyfatebol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth?
Enw da yn rhyngwladol - Mae'r adran ymhlith y rhai sydd â'r amgylchedd academaidd ac ysgolheigaidd bywiocaf yn y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Lleoliad heb ei ail - Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddi'n rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion - y lle delfrydol i astudio hanes a threftadaeth cyfoethog y Celtiaid a'u hardaloedd.
Arbenigwyr - Mae'r adran yn ganolfan ymchwil a chanddi enw da yn rhyngwladol, ac yn gartref i dîm o arbenigwyr ysbrydoledig sy'n arwain y byd ym maes iaith a diwylliant Cymreig a Gwyddelig.
Ieithoedd Celtaidd eraill - Cei'r cyfle i ddysgu Gaeleg yr Alban a Breton yn ogystal â'r lenyddiaeth gysylltiedig.
Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar y brig yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd (NSS 2020).
Dewis eang - Cei ddewis o blith ystod hynod ddiddorol o fodiwlau sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr.
Cymuned Gymraeg fyrlymus - Cei ffynnu wrth fod yn rhan o'n cymdeithas Gymraeg, fywiog. Yn ogystal ag Undeb y Myfyrwyr, mae UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a chymdeithasau i'r rheini sy'n dymuno bod yn rhan o'r gymuned Gymraeg ehangach.
Digwyddiadau Ysgogol - Wrth astudio yma, fe gei di'r cyfle i fynychu cyfoeth o ddarlithoedd cyhoeddus, nosweithiau lansio llyfrau, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Adran ei hun a'r tu allan iddi.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Mae’r Llyfrgell ar stepen drws Campws Penglais. Mae'n unigryw yng Nghymru ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar ei chasgliadau prin o lenyddiaeth.
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd - Mae'r Ganolfan yn sefydliad ymchwil wedi’i leoli gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Ysgoloriaeth Llywodraeth Iwerddon - Cei wneud cais i astudio cwrs iaith dwys yn Iwerddon, diolch i Lywodraeth Iwerddon.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Yn ystod y cwrs, byddi'n datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau:
ymchwilio a dadansoddi data
meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
gweithio’n annibynnol
trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
sgiliau technoleg gwybodaeth.
Beth fydda i'n gallu ei wneud gyda gradd mewn Astudiaethau Celtaidd?
Mae sawl maes yn gwerthfawrogi'r hyfforddiant eang yn y Dyniaethau a'r cyswllt â chysyniadau diwylliannol a hanesyddol a gynigir gan gwrs gradd fel Astudiaethau Celtaidd. Cei y cyfle i ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs i'r eithaf yn dy ddewis yrfa.
Mae graddedigion y radd Astudiaethau Celtaidd yn canfod gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys addysg, gweinyddu, y cyfryngau a'r sector cyhoeddus, yma a thramor.
Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddi'n astudio?
Clicia yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Cei hefyd wella dy gyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael ei reoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Rydym yn cynnig modiwlau Cymraeg a Gwyddeleg, ond gall myfyrwyr hefyd ddewis astudio ac ymchwilio i ieithoedd megis Gaeleg yr Alban a Llydaweg a'r diwylliant Geltaidd ehangach. Diben y radd dair blynedd hon yw eich annog i archwilio'ch diddordebau eich hun mewn meysydd megis:
llenyddiaeth Gymraeg
barddoniaeth menywod yn Iwerddon, yr Alban a Chymru
llenyddiaeth saga Wyddelig gynnar
ieitheg Geltaidd gymharol
barddoniaeth farddaidd Aeleg
hen Wyddeleg a Chymraeg ganol
y Mabinogion
llenyddiaeth Geltaidd am y tirlun
Brenin Arthur y Cymry.
Cei gyfle i ysytyried cwestiynau mawr yn ymwneud â hunaniaeth, diwylliant a llenyddiaeth yn y flwyddyn gyntaf. Cei hefyd dy gyflwyno i iaith Geltaidd fodern. Yn ystod gweddill y cwrs byddi'n canolbwyntio ar ehangu ac atgyfnerthu dy wybodaeth am yr ieithoedd Celtaidd - y cyfoes a'r hen - a llenyddiaeth a diwylliant y Celtiaid o'r hanes cyntaf hyd heddiw.
Sut bydda i’n cael fy addysgu?
Yn Adran y Gymraeg byddi'n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.
Sut bydda i'n cael fy asesu?
Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu dy helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.