Yn sgil yr angen brys i gofnodi, deall ac, yn y pen draw, atal dirywiad bioamrywiaeth, ceir galw mawr am ecolegwyr. Nod y radd hon yw rhoi ichi’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol er mwyn diwallu’r galw hwn. 

Ar ein gradd Ecoleg byddwch yn astudio’r rhyngweithio rhwng organebau a’u hamgylchedd, gan greu’r sylfaen hanfodol er mwyn datblygu eich dealltwriaeth o sut y bydd bywyd gwyllt yn ymateb i fygythiadau amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan gynnwys llygredd, newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau ymledol, a dinistrio cynefinoedd. Ein nod ar y radd hon yw eich hyfforddi i fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o ecolegwyr a fydd yn ymateb i fygythiadau amgylcheddol, yn canfod atebion, ac yn helpu i gynnal bioamrywiaeth i’r dyfodol.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs pedair blynedd hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig, wedi'r flwyddyn honno mae'r cwrs yr un fath a'r cwrs tair blynedd safonol, BSc Ecoleg (C180)

Pam astudio Ecoleg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn dysgu ac yn byw mewn ardal o harddwch eithriadol sy'n cynnig mynediad at ecoleg leol, ond hefyd at gyfleoedd amgylcheddol a hamdden sy'n addas i bobl sy'n hoff o'r awyr agored.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan ecolegwyr sydd wedi ennill gwobrau ar fodiwlau sy'n targedu gwybodaeth a sgiliau mewn tirfesur, nodi a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, adfer cynefinoedd, asesu bioamrywiaeth a chadwraeth, ac ymgynghoriaeth amgylcheddol. Byddwch yn fyfyriwr mewn Sefydliad Ymchwil ac addysgu byd-enwog.
  • Bywyd gwyllt a chefn gwlad heb ei ail ar garreg eich drws.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication Skills BR01520 20
Molecules and Cells BR01340 40
Organisms and the Environment BR01440 40
Practical Skills for Biologists BR01220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Climate and Climate Change BR16620 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
Freshwater Biology BR22020 20
Invertebrate Zoology BR25420 20
Marine Biology BR22620 20
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Environmental Regulation and Consultancy BR35620 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Sustainable Land Management BR30420 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Mae llawer o’n graddedigion Ecoleg yn canfod swyddi ym maes cadwraeth a diogelu’r amgylchedd, neu mewn addysg amgylcheddol mewn ysgolion, colegau neu warchodfeydd natur. Mae rhai o’n graddedigion wedi sicrhau cyflogaeth mewn sefydliadau fel DEFRA, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiwn Coedwigaeth, Natural England, ADAS, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, Cyswllt Amgylchedd Cymru, y Grid Cenedlaethol ac awdurdodau dŵr.

Sut bydd fy ngradd yn fy mharatoi ar gyfer y dyfodol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol: 

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen eang i chi mewn bioleg, a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Y Biosffer
  • Ecoleg
  • Ffisioleg Anifeiliaid
  • Amrywiaeth Bywyd Microbaidd
  • Bioleg Planhigion
  • Cadwraeth bywyd gwyllt
  • Astudio a rheoli cynefinoedd
  • Astudio a rheoli cynefinoedd

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn cael cynnig modiwlau arbenigol, gan gynnwys:

  • Effaith newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau
  • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
  • Bioleg Dŵr Croyw
  • Bioamrywiaeth adar
  • Asesu cynefinoedd ac adnabod organebau (ym Mhrydain ac yn rhyngwladol)
  • Fertebrâu
  • Deall infertebrâu
  • Monitro Ecolegol 

Yn eich trydedd flwyddyn, bydd y meysydd pwnc sydd ar gael yn cynnwys:

  • Ecoleg Gymunedol a Phoblogaeth
  • Cadwraeth bywyd gwyllt
  • Asesu cynefinoedd ac adnabod organebau (Rhyngwladol)
  • Diogelu'r Amgylchedd a'r Gyfraith
  • Cynaliadwyedd
  • Monitro Ecolegol 
  • Ymgynghoriaeth Amgylcheddol
  • Ymchwil annibynnol mewn pwnc o'ch dewis

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Llyfrau nodiadau maes
  • Arholiadau.

Tystiolaeth Myfyrwyr

"Mae'r cwrs Ecoleg yn Aberystwyth wedi rhoi set dda o sgiliau i mi y gallaf eu defnyddio a'u cymhwyso i'm swydd bresennol. Mae'r gwaith maes sydd yn llawer o fodiwlau'r cynllun gradd Ecoleg wedi sicrhau bod gen i brofiad o weithio mewn amgylcheddau awyr agored, sy'n angenrheidiol ar gyfer llawer o yrfaoedd ym maes ecoleg." Pippa

"Rwy'n falch iawn fy mod wedi dewis y cynllun gradd hwn. Cynnwys diddorol drwyddo draw, cefnogaeth wych gan y darlithwyr, ac adborth cynhwysfawr. Dewis gwych, ddim yn difaru dim." Alex

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and Science (minimum grade C/4)

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|