Addysg
BA Addysg Cod X30F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
X30F-
Tariff UCAS
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
65%
Ar gael ar gyfer
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrWrth astudio am radd mewn Addysg yn Aberystwyth byddwch yn ymchwilio i ddatblygiad plant a phobl ifanc, ac yn ymdrin â materion sy'n ganolog i gael dealltwriaeth o gyfundrefnau addysg. Nod ein cwrs yw eich cyffroi a'ch ysgogi trwy astudiaeth o gynlluniau cwricwlwm a pholisïau addysg, yn ogystal â rhoi dirnadaeth bellach o gymdeithaseg, seicoleg, ac ieithyddiaeth. Agwedd y canolbwyntir arni’n benodol yw cefnogi dysgwyr trwy'r gyfundrefn addysg.
Mae astudio addysg yn cynnwys agweddau ar seicoleg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth, a hanes. Mae'n astudio sut mae pobl yn dysgu, sut mae eu hamgylchedd yn dylanwadu ar eu dysgu, sut y gwneir penderfyniadau, a sut mae ein dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu wedi datblygu dros y blynyddoedd.
Bydd lleoliadau arsylwi yn ystod y radd yn gymorth i chi weld y damcaniaethau ar waith, ac mae cefnogi dysgwyr trwy'r gyfundrefn addysg yn agwedd y canolbwyntir arni’n benodol.
Mae gradd Addysg yn sylfaen ddelfrydol i waith mewn diwydiant, gwaith creu polisi neu’r sector elusennol, neu i astudio ar gwrs addysg athrawon TAR Cynradd. Gall gradd Addysg ar y cyd â phwnc arall eich cymhwyso am gyrsiau TAR Uwchradd.
Mae'r radd blwyddyn sylfaen integredig wedi'i chynllunio i ddarpar fyfyrwyr os nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol - mae'n llwybr delfrydol i gael mynediad i'r radd hon. Yn y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn datblygu sylfaen academaidd gadarn i'ch galluogi i fynd ymlaen i astudio'r cwrs BA Addysg llawn.
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS
Safon Uwch Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.
Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.
Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (eg, A-Levels or BTEC diploma) and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation.
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|