Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd ein gradd BA Addysg yn ceisio datblygu’ch gwybodaeth a dealltwriaeth am rôl addysg mewn gwahanol gyd-destunau ac ystod eang o ysgolion, lleoliadau addysgol a darparwyr ôl-16. Wedi’i gynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol, mae’r cwrs blwyddyn sylfaen integredig yn ddewis perffaith i gael mynediad i’r cynllun gradd hynod boblogaidd hwn.

Bydd ein gradd mewn Addysg gyda blwyddyn sylfaen integredig yn eich galluogi i archwilio gwahanol agweddau ar addysg, ac yn cwmpasu materion sy’n hanfodol er mwyn deall dysgu ac addysgu. Gyda man cychwyn academaidd sicr yn y Flwyddyn Sylfaen, mae’r radd yn cynnwys agweddau ar seicoleg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth, a hanes. Mae’n ymchwilio i sut mae pobl yn dysgu, sut mae eu hamgylcheddau’n dylanwadu ar eu dysgu, sut rydym yn gwneud penderfyniadau, a sut mae ein dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu wedi datblygu dros y blynyddoedd. Ceir ffocws penodol ar gefnogi dysgwyr trwy gydol y system addysg.

Cyhyd â’ch bod yn bodloni’r gofynion mynediad, cewch warant o gyfweliad am y Dystysgrif Addysg i Raddedigion Cynradd (TAR) yn Aberystwyth.

Trosolwg o'r Cwrs

Yn dilyn y flwyddyn sylfaen, bydd cynnwys y cwrs hwn yr un fath â'r cwrs BA Addysg X302.

Pam astudio yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth?

  • Mae'r Ysgol Addysg wedi bod yn cynnig rhaglenni astudio ysgogol ac arloesol am dros gan mlynedd.
  • Mae ein hymchwil yn bwydo i mewn i'n dysgu sy'n golygu y byddwch chi'n elwa o'r wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf yn y pwnc, ac yn cael cyfle i ystyried y materion allweddol mewn modd beirniadol.
  • Cewch gyfle i ddod i ddeall casgliad cymhleth o wybodaeth sy'n gysylltiedig ag Addysg.
  • Byddwn yn eich grymuso i reoli ac i fyfyrio ar eich dysgu a'ch perfformiad eich hun mewn modd beirniadol.
  • Byddwn yn rhoi'r cyfle i chi ennill y sgiliau cyflogadwyedd a phriodweddau a gwerthoedd personol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith, hyfforddiant, neu addysg bellach
  • Os ydych yn dymuno cael gyrfa ddysgu, bydd gwarant o gyfweliad am y Dystysgrif Addysg i Raddedigion Cynradd (TAR) yma, cyhyd â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad.
Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Introduction to Social Science GS09720 20
The ‘Othered' Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiad a Dysgu Plant AD14520 20
Key Skills for University ED13620 20
Policies and Issues in Education ED10120 20
Y Dysgwr a'r Amgylchedd Dysgu AD13820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiad Iaith AD14320 20
Health and Wellbeing in the Early Years ED14620 20
Inclusive Learning Practices ED11820 20
Language Development ED14320 20
Partneriaethau - Egwyddorion ac Ymarfer AD14420 20
Play and Learning:Theory and Practice ED13720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Seicoleg Dysgu a Meddwl AD20120 20
Research Methods ED20320 20
Safeguarding and Professional Practice ED24320 20
Working with Children ED20620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Discourses Language and Education ED22420 20
Education, Diversity and Equality ED20420 20
Literacy in Young Children ED20220 20
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc AD20220 20
Making Sense of the Curriculum ED20820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Asesu ac Addysg AD30120 20
Major dissertation ED33640 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Children's Rights ED30620 20
Communication ED34720 20
Cyfathrebu AD34720 20
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol AD34820 20
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar AD30320 20
Emotional and Social Development ED34820 20
Hawliau Plant AD30620 20
Mathematical Development in the Early Years ED30320 20
Special Educational Needs ED30420 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi’i wreiddio yn y cwrs hwn. Yn ystod eich gradd cewch gyfle i ymgymryd â lleoliadau gwaith gyda rhai modiwlau. Ar ôl graddio byddwch yn gallu ymgeisio am y TAR ar gyfer dysgu cynradd. Gyda gradd mewn Addysg â phwnc arall, mae’n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer y cyrsiau TAR ar lefel Uwchradd.

Mae graddedigion eraill o’r Ysgol Addysg wedi dilyn llwybrau gyrfaol yn y meysydd canlynol:

  • gofal cymdeithasol
  • nyrsio
  • therapi lleferydd
  • gwaith cymdeithasol
  • lles plant
  • therapi chwarae
  • y diwydiant hamdden
  • cyfraith plant
  • ymchwil plentyndod.

Caiff myfyrwyr y cwrs hwn gyfle i astudio yn un o'n Prifysgolion partneriaethol yn Ewrop neu mewn rhan arall o'r byd trwy ein rhaglenni astudio dramor. Canfod ble gallwch chi fynd yn fyfyriwr yn yr Ysgol Addysg.

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2/Academic Skills Foundation 1 & 2
  • Critical Thinking and Research Skills
  • Foundation - Dialogue
  • Foundation In Liberal Arts
  • Learning Experience.

Yr ail flwyddyn:

  • Datblygiad a Dysgu Plant/ Children’s Development and Learning
  • Polisiau a Materion mewn Addysg/Policies and Issues in Education
  • Datblygiad Iaith/Language Development
  • Sgiliau Allweddol I Brifysgol/Key Skills for University.

Y drydedd flwyddyn:

  • Seicoleg Dysgu a Meddwl/Psychology of Learning and Thinking
  • Dulliau Ymchwil/Research Methods
  • Gweithio gyda Phlant/Working with Children
  • Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol/Safeguarding and Professional Practice.

Y flwyddyn olaf:

  • Hawliau Plant/Children’s Rights
  • Gwerthuso ac Adlewyrchu ar Sgiliau Dysgu yn Gritigol/Critically Reflecting and Evaluating Learning and Skills
  • Traethawd Hir/Major Dissertation
  • Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol/Emotional and Social Development.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|