BSc

Gwyddor Daear Amgylcheddol

Gwyddor Daear Amgylcheddol Cod F64F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.

Bydd ein BSc mewn Gwyddor Daear Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o bynciau Gwyddor Daear Amgylcheddol a Daearegol. Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o'r adrannau mwyaf profiadol a sefydledig o'i bath.

Byddwch yn astudio'r sgiliau craidd ym maes daeareg ac yn cymhwyso'r rhain i ystod eang o broblemau amgylcheddol. Byddwch yn dysgu sgiliau maes y gellir eu cymhwyso i ddatrys rhai o'r problemau mawr sy'n wynebu ein cymdeithas megis llygredd o ganlyniad i weithgareddau pobl megis mwyngloddio a chynhyrchu pŵer, neu ddeall echdoriadau llosgfynyddoedd a sut mae mapiau peryglon yn cael eu creu. Bydd y radd yn eich hyfforddi i ddatrys problemau a chyfrannu at gymdeithas. Rydym yn cynnal cyrsiau maes ym mhob un o dair blynedd eich gradd. Mae ein cyfleusterau yn cael eu cydnabod gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC). Mae'r flwyddyn sylfaen integredig wedi'i chynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol - mae'n llwybr delfrydol i gael mynediad i'r cynllun poblogaidd hwn. Yn y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dysgu am gysyniadau allweddol Gwyddor Daear Amgylcheddol o safbwynt rhyngddisgyblaethol. Mae hyn yn rhoi profiad unigryw a golwg feirniadol ichi er mwyn gwneud y gorau o'r radd israddedig lawn.

Trosolwg o'r Cwrs

Ar ôl y flwyddyn sylfaen, mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs [Gwyddor Daear Amgylcheddol, F640].

Pam astudio Gwyddor Daear Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio Gwyddor Daear Amgylcheddol yn un o'r lleoliadau mwyaf prydferth yn Ewrop. Mae ein hadran ger arfordir Bae Ceredigion, wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth fawr o amgylcheddau hardd, gan gynnwys y môr, rhostir, ucheldir a glaswelltir. Rydym mewn sefyllfa unigryw i wneud yn fawr o'r tirweddau trawiadol o'n cwmpas, sy’n darparu amrywiaeth gwych o gyfleoedd am waith maes a hamdden. 
  • Byddwch yn archwilio i bynciau daearegol a gwyddor daear amgylcheddol ac yn cael dealltwriaeth fanwl amdanynt drwy ymchwilwyr blaenllaw yn eu meysydd.
  • Byddwch yn mynd ar gwrs maes ym mhob un o dair blynedd eich gradd, gan roi’r cyfle i chi i gymhwyso'r wybodaeth rydych wedi'i datblygu yn yr ystafell ddosbarth i enghreifftiau o'r byd go iawn.
  • Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o newid yn yr hinsawdd gan ganolbwyntio ar y wybodaeth wyddonol sy'n sail iddo, a'i gyd-destun yn hanes y blaned.
  • Byddwch yn deall sut mae echdoriadau llosgfynyddoedd yn effeithio ar bobl a'r amgylchedd ac yn dysgu am addasiadau y gellid eu gwneud yn y dyfodol at beryglon a materion amgylcheddol ac anthropogenig.
  • Bydd eich tiwtoriaid a'ch darlithwyr yn darparu hyfforddiant ar ddefnyddio offer synhwyro o bell a GIS, a sut y’u defnyddir yn broffesiynol. 
  • Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn am faterion amgylcheddol cyfoes fel llygredd a gwaredu gwastraff ac yn cael eich hyfforddi yn y sgiliau labordy diweddaraf a ddefnyddir i fonitro ac ymdrin â halogi amgylcheddol.
  • Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf ac wedi’u cydnabod gan NERC (Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol).
  • Gallwch ddewis astudio rhywfaint o’ch gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar dab y modiwl am fwy o wybodaeth.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Environmental Management GS00420 20
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
The "Othered" Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An introduction to Earth Materials GS12520 20
Earth Surface Environments GS10520 20
Fieldwork Skills GS11320 20
How to Build a Planet GS11520 20
Life on Earth GS10720 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Gwyddorau Daear Amgylcheddol?

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi ym meysydd ymgynghori amgylcheddol, peirianneg geodechnegol, y gwasanaeth sifil, technoleg, ac mewn arolygon daearegol ac amgylcheddol, ymhlith llawer o feysydd eraill.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn y flwyddyn sylfaen, cewch gyflwyniad i elfennau craidd Gwyddor Daear Amgylcheddol.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn cael eich cyflwyno i:

  • amgylcheddau cynradd (y ddaear solet) ac eilaidd (prosesau arwynebol)
  • newidiadau amgylcheddol y gorffennol a'r presennol
  • potensial ar gyfer rhagweld newidiadau'r dyfodol yn ein hinsawdd a'n hamgylchedd
  • sgiliau labordy a maes ar draws daeareg a daearyddiaeth ffisegol.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn darganfod;

  • geogemeg
  • dulliau dadansoddi deunyddiau naturiol yn ddaearegol a chemegol
  • heriau byd-eang fel adnoddau’r Ddaear ac effeithiau ar yr amgylchedd
  • setiau data meintiol ac ansoddol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â'r canlynol:

  • prosiect ymchwil annibynnol neu draethawd hir
  • modiwlau dewisol gan gynnwys: Biogeocemeg Amgylcheddol ac Iechyd, Arsylwi ar y Ddaear, Rheolaeth Amgylcheddol Gymhwysol, a Gweithgarwch Llosgfynyddol, ymhlith llawer o rai eraill.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron ac mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Available to those who are studying for, or have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC), to include a relevant science subject (geology, geography or science), and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, work experience in the relevant sector and motivation for study.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to those who are studying for, or have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC), to include a relevant science subject (geology, geography or science), and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, work experience in the relevant sector and motivation for study.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to those who are studying for, or have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC), to include a relevant science subject (geology, geography or science), and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, work experience in the relevant sector and motivation for study.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to those who are studying for, or have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC), to include a relevant science subject (geology, geography or science), and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, work experience in the relevant sector and motivation for study.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|