BA

Daearyddiaeth Ddynol

Wedi’i gynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol, mae’r cwrs gyda blwyddyn sylfaen integredig yn ddewis perffaith i gael mynediad at y cyllun gradd hynod boblogaidd hwn. Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi ichi sail academaidd gadarn i’ch galluogi i fynd ymlaen i fwynhau’r radd israddedig lawn yn eich ail flwyddyn.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd mewn Daearyddiaeth Ddynol yn ymdrin â rhai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r byd heddiw – globaleiddio, datblygu cynaliadwy, anghydraddoldeb a thlodi, daearwleidyddiaeth, cenedlaetholdeb a rhanbartholrwydd, newid gwledig a threfol; a mudo. Byddwch yn astudio’r prosesau hanesyddol y tu ôl i dueddiadau cyfoes, yn dwyn ynghyd safbwyntiau o wahanol wledydd a diwylliannau, ac yn defnyddio gwahanol ffynonellau, o fapiau ac ystadegau i ffilm, celf a llenyddiaeth.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith maes, gan gynnwys taith faes yn rhad ac am ddim ar ddechrau’r flwyddyn gyntaf. Yn yr ail flwyddyn, rydym yn cynnig ystod o deithiau i gyd-fynd ag arbenigeddau a chyllidebau amrywiol. Yn ddiweddar, bu teithiau i rannau eraill o Gymru (am ddim) ac i Berlin (am dâl ychwanegol). Yn ogystal â hyn cynigir teithiau undydd dewisol (mae’r cyrchfannau yn gallu newid) ar sawl modiwl trwy gydol eich gradd.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Daearyddiaeth Ddynol (gyda blwyddyn sylfaen integredig) yn Aberystwyth:

  • cael eich dysgu gan ymchwilwyr sy’n arwain y byd yn eu meysydd trwy gydol eich cwrs.
  • astudio am radd sydd wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddiaeth
  • Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain).


Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Introduction to Social Science GS09720 20
The "Othered" Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Conflict and Change: the making of urban and rural spaces GS10220 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Place and Identity GS14220 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Earth Surface Environments GS10520 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Key Concepts in Sociology GS16120 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Thinking Sociologically GS15120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts for Geographers GS20410 10
Placing Culture GS22920 20
Placing Politics GS23020 20
Ymchwilio i bobl a lle DA20510 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astudio Cymru Gyfoes DA20820 20
Genders and Sexualities GS20220 20
Geographical Information Systems GS23710 10
Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
Quantitative Data Analysis GS23810 10
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes DA25420 20
Human Geography Research Design and Fieldwork Skills GS21520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig Daearyddiaeth DA34040 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cenedlaetholdeb a chymdeithas DA32220 20
Everyday Social Worlds GS33320 20
Memory Cultures: heritage, identity and power GS37920 20
Modern British Landscapes GS36220 20
Rheoli'r Amgylchedd Gymreig DA31720 20
The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives GS36820 20
The psychosocial century GS30020 20
Urban Risk and Environmental Resilience GS37520 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu dibynnu ar set o sgiliau trosglwyddadwy mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym. Mae graddedigion y cwrs hwn wedi dod o hyd i waith fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweithwyr sifil, tirfesurwyr, ac addysgwyr, ymhlith eraill.

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2/Academic Skills Foundation 1 & 2
  • Critical Thinking and Research Skills
  • Foundation - Dialogue
  • Foundation in Liberal Arts
  • Learning Experience.

Yr ail flwyddyn:

  • Byw gyda Newid Byd-eang/ Living with Global Change
  • Newid a Gwrthdaro: Cynhyrchu Gofodau Gwledig a Threfol/Conflict and Change: the making of Urban and Rural Spaces
  • Place and Identity
  • Researching the World: Data Collection and Analysis
  • Understanding Sameness and Difference.

Y drydedd flwyddyn:

  • Concepts for Geographers
  • Gwaith Maes Daearyddiaeth/Geography Fieldwork
  • Lleoli Gwleidyddiaeth/Placing Politics
  • Placing Culture
  • Geographical Perspectives on the Sustainable Society
  • Ymchwilio i Bobl a Lle/Researching People and Place.

Y flwyddyn olaf:

  • Traethawd Estynedig Daearyddiaeth/Geography Dissertation.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|