MAg

Amaethyddiaeth

Mae’r radd Meistr Integredig pedair blynedd mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth  yn rhoi cyfle ichi gyfuno gradd BSc â blwyddyn ychwanegol o astudio fel y byddwch yn graddio â chymhwyster ar lefel Meistr. Bydd y cwrs yn datblygu ehangder a dyfnder eich gwybodaeth amaethyddol ac yn eich paratoi i fod yn arbenigwyr yn y pwnc a fydd yn gallu defnyddio datblygiadau arloesol yn y diwydiant amaeth yn effeithiol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd tair blynedd gyntaf y cwrs yn dilyn yr un maes llafur â’r BSc Amaethyddiaeth (H21Y), ac yn dilyn hynny bydd blwyddyn ychwanegol o astudio, ac ar ôl hynny byddwch yn graddio gyda chymhwyster ar lefel Meistr.  

Mae’r radd BSc mewn Amaethyddiaeth yn cynnig ymdriniaeth fanwl i chi o amaethyddiaeth a systemau cynhyrchu amaethyddol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o bynciau hanfodol bwysig fel cynaliadwyedd, rheolaeth amgylcheddol a thechnoleg. Bydd yn rhoi i chi’r ddealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol sydd ei hangen i reoli busnes cynaliadwy, a’ch paratoi i fabwysiadu’r arferion gorau, wedi'u llywio gan ymchwil gyfredol, i fynd i'r afael â’r heriau a ddaw o reoli da byw a chnydau a chael y gorau o'ch busnes amaethyddol.   

 Byddwch yn astudio cyfuniad diddorol o wyddoniaeth, technoleg a rheoli ynghyd â sylfaen gadarn mewn ffisioleg a hwsmonaeth anifeiliaid a chnydau yn ogystal â busnes, economeg a defnydd tir. Byddwch yn symud ymlaen i ddysgu am systemau cynhyrchu cyfredol a rhagamcanol o safbwyntiau cynhyrchu, arian a’r amgylchedd, a bod yn agored i arfer gorau gan ymgyfarwyddo â'r ymchwil ddiweddaraf.  

 Yn ogystal, byddwch yn ymgyfarwyddo â rôl yr Arolwg o Fusnesau Ffermio o ran dadansoddi a meincnodi cymharol - offeryn a fydd yn amhrisiadwy yn eich gwaith yn y dyfodol, â’ch galluogi i gymharu perfformiad a phroffidioldeb eich fferm â ffermydd eraill yn y DU a’r UE.     

 Mae Aberystwyth wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth fawr o dir fferm a thir amaethyddol. Bydd eich dysgu ymarferol yn cael ei leoli yn yr 800 hectar o ffermydd prifysgol a reolir yn fasnachol. Mae hyn yn cael ei ategu gan ymweliadau maes i ffermydd a busnesau amaethyddol a bwyd sy’n arweinwyr diwydiant ledled y DU ym maes arloesi ac arbenigedd technegol, a bydd hyn yn atgyfnerthu eich dysgu academaidd. 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth BG39920 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Adolygiad critigol BG36320 20
Agricultural Research Project BR32620 20
Critical Review BR36320 20
Prosiect Ymchwil Amaethyddiaeth BG32620 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20
Marketing and Small Business Management BR34720 20
Sustainable Land Management BR30420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
MBiol Research Project BRM2860 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding and Genetics BRM5820 20
Grassland Science BRM5120 20
Infection and Immunity BRM1620 20
Livestock Nutrition BRM0320 20
Livestock Production Science BRM5420 20

Gyrfaoedd

Mae’r radd Meistr Integredig mewn Amaethyddiaeth wedi'i chreu'n benodol er mwyn diwallu'r galw cynyddol am staff â'r cymwysterau addas i weithio ar lefel uchel ym maes Amaeth a'r diwydiannau cysylltiedig. Bydd y sgiliau arbenigol a ddatblygir ar y cwrs hwn yn eich galluogi i dargedu gyrfaoedd ym maes ymgynghori amaethyddol, agronomeg, rheoli ffermydd, iechyd a maeth da byw a'r holl swyddi cysylltiedig eraill. Mae'r MAg hefyd yn opsiwn amgen cydnabyddedig i'r MSc er mwyn symud ymlaen i astudio am ddoethuriaeth, ac mae hefyd yn sylfaen ragorol ar gyfer gyrfa fel gwyddonydd proffesiynol.   

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?  

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r technolegau sy'n cael eu datblygu'n gynyddol ar gyfer y diwydiant amaethyddol ac sy'n cael eu defnyddio ganddynt. Byddwch yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd tir ac yn archwilio'r prif adnoddau sydd eu hangen i weithredu busnes gwledig. Byddwch yn ennill sgiliau rheoli busnes defnyddiol, gan gynnwys paratoi cyllidebau fferm a dadansoddi marchnadoedd nwyddau. 

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio effaith systemau amaethyddiaeth a chyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Byddwch yn archwilio diwydiannau da byw Prydain, systemau a strategaethau cynhyrchu cnydau, ac yn dysgu sut i ddadansoddi, cyllidebu ac arfarnu busnes fferm. 

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn edrych ar sut y defnyddir ymchwil i ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid mwy effeithlon. Byddwch yn ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol ar draws ystod o safbwyntiau penodol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol, ac yn meithrin dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a'r economi wledig.  Bydd ymweliadau â ffermydd, canolfannau ymchwil, busnesau gwledig a sefydliadau sy’n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn rhan annatod o’r cwrs gan amlygu’r materion allweddol dan sylw a’ch galluogi i weld sut mae cymhwyso eich addysg ddamcaniaethol ac academaidd i fusnes ymarferol.     

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol, fel arfer yn ddadansoddol ei natur ac yn cynnwys casglu a dadansoddi data ar bwnc sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn agwedd benodol ar y ddisgyblaeth dan arweiniad arolygydd traethawd hir.  

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Byddwch yn cael nifer o gyfleoedd i ddefnyddio eich dysgu academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai.  

Asesu 

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, cynlluniau busnes, adolygiadau o destunau academaidd, llyfr nodiadau maes ac arholiadau. Bydd prosiectau ymchwil yn eich trydedd a phedwaredd flwyddyn yn eich galluogi i wneud ymchwil fanwl o dan arweiniad arolygydd.  

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol.  

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB gan gynnwys B yn un o'r Gwyddorau perthnasol

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and a Science subject

Diploma Cenedlaethol BTEC:
D*D*D*-D*DD with a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 6 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 in a relevant science

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|