BSc

Bioleg y Mor a Dŵr Croyw

Bioleg y Mor a Dŵr Croyw Cod C16F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig. 

Mae'r radd BSc Bioleg y Môr a Dŵr Croyw gyda blwyddyn sylfaen integredig ym Mhrifysgol Aberystwyth ymhlith yr ychydig rai drwy Brydain sy’n rhoi i chi ddealltwriaeth gynhwysfawr - o’r dalgylch i’r cefnfor - ynghylch y fioleg, yr ecoleg a'r ffactorau sy’n achosi straen sy'n effeithio ar yr ecosystemau hyn sydd wedi’u cydgysylltu mor agos â’i gilydd. Mae hyn yn hanfodol, o gofio eu bod yn cynnal rhai o'r rhywogaethau a'r cynefinoedd sydd o dan y bygythiad mwyaf. 

Mae Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion gyda chefnwlad sy'n gyfoeth o afonydd, nentydd a llynnoedd, yn lleoliad delfrydol i astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw. Mae cynefinoedd sy'n hawdd eu cyrraedd yn amrywio o nentydd mynydd sy'n llawn eog a brithyll a chynefinoedd unigryw ar gyfer anifeiliaid infertebraidd dŵr croyw, i aberoedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, i draethau tywodlyd, riffiau creigiog, morfeydd heli a bae sy'n gartref i'r boblogaeth breswyl fwyaf o ddolffiniaid trwyn potel oddi ar ynysoedd Prydain. 

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol. 

Trosolwg o'r Cwrs

This four-year course includes an integrated foundation year, after which the syllabus follows that of the standard three-year course, BSc Marine and Freshwater Biology (C164).

On this course you will develop practical skills in the sampling techniques used in the aquatic environment, the critical analysis of data and literature, and the presentation of your findings to a variety of stakeholders. This will ensure you are well prepared for professional roles that seek to understand and address the various challenges facing marine and freshwater organisms and ecosystems. 

To support your learning, you will have access to a research vessel enabling you to gain real hands-on experience of the sampling techniques used by professional marine and freshwater biologists as well as use of our aquarium systems for experimental studies of marine and freshwater organisms. 

Fieldwork and practical classes form an integral part of the course throughout. An optional residential two-centre field course in your final year, currently based in Portugal and Scotland, will allow you to immerse yourself in the study of marine and freshwater biology further afield.

All students have the opportunity to carry out a practical research project in their final year.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication Skills BR01520 20
Molecules and Cells BR01340 40
Organisms and the Environment BR01440 40
Practical Skills for Biologists BR01220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Aquatic Botany BR25820 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Freshwater Biology BR22020 20
Marine Biology BR22620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Animal Behaviour BR21620 20
Environmental Microbiology and Monitoring BR26020 20
Invertebrate Zoology BR25420 20
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
Researching Behavioural Ecology BR27320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Fish Biology, Fisheries and Aquaculture BR33220 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Practical Aquatic Conservation BR37520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Freshwater Biology Field Course BR37720 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Marine Biology Field Course BR30020 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Mae gan raddedigion Bioleg y Môr a Dŵr Croyw y sgiliau a'r wybodaeth i ddilyn ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys ymgynghori ecolegol, rheoli amgylcheddol a chadwraeth, dysgu, a newyddiaduraeth wyddonol. Byddwch hefyd wedi’ch paratoi’n drylwyr ar gyfer gyrfa ymchwil wyddonol, gan barhau ag astudiaethau uwchraddedig ar lefel Meistr neu PhD. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio’r modiwlau sylfaen a fydd yn datblygu’ch gwybodaeth am fioleg ac yn eich paratoi at astudio bioleg y môr a dŵr croyw yn ystod tair blynedd nesaf eich gradd. 

Yn eich ail flwyddyn, mewn dosbarthiadau damcaniaethol ac ymarferol, byddwch yn edrych ar yr amrywiaeth anhygoel o fywyd ar y Ddaear a'r moleciwlau allweddol sy'n ffurfio popeth byw. Byddwch yn astudio ffisioleg anifeiliaid gan ddefnyddio enghreifftiau o infertebratau a fertebratau ac yn craffu ar amrywiaeth eang bywyd microbaidd. Fe edrychwch ar ecoleg a bioleg planhigion ac yn ystyried heriau'r dyfodol, megis sut mae ymateb i newid hinsawdd byd-eang a gwarchod bioamrywiaeth. Byddwch yn datblygu’ch sgiliau ymarferol yn y maes a’r labordy, ac yn magu hyder wrth gasglu a dadansoddi data gwyddonol. 

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar fioleg ac ecosystemau morol a dŵr croyw ac yn cael cyflwyniad i amrywiaeth yr algâu a’r angiosbermau dyfrol sy'n byw mewn amrywiaeth o gynefinoedd dyfrol. Byddwch yn ystyried cadwraeth ddyfrol gymhwysol ac yn meithrin profiad ymarferol o'r technegau a ddefnyddir i fonitro, cadw ac ymgymryd ag ymchwil mewn amgylcheddau dŵr bas. 

Yn eich flwyddyn olaf, byddwch yn meithrin dealltwriaeth am agweddau sylfaenol a chymhwysol ar fioleg cadwraeth pysgod, a’r rhan a chwaraeir gan bysgota detholus, dyframaeth a chadwraeth yn neinameg a chynaliadwyedd poblogaethau pysgod. 

Drwy gydol y cwrs bydd yr amrywiaeth o fodiwlau dewisol yn eich galluogi i deilwra’ch cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau chi. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Bydd ein cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, tiwtorialau, gwaith maes, ymarferion a chyrsiau maes preswyl. Byddwch yn cael hyfforddiant trwyadl mewn cysyniadau a dulliau gwyddonol sy'n gysylltiedig ag esblygiad ac ecoleg systemau naturiol, gyda phwyslais ar amgylcheddau morol a dŵr croyw. 

Asesiad 

Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, coflenni, posteri, portffolios, wicis, dyddiaduron myfyriol, adolygiadau llenyddiaeth, erthyglau cylchgrawn, llyfrau nodiadau maes ac arholiadau. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

"Mwynheais fy amser yn astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw ac rwy'n gallu cymhwyso gwahanol agweddau ar yr hyn a ddysgais yn ystod fy nhair blynedd i'm swydd bresennol, er nad yw'n cysylltu'n uniongyrchol â'm cwrs. Roedd elfennau ymarferol fy nghwrs yn rhagorol, yn enwedig y ddwy daith maes yn y flwyddyn olaf." Rebecca – Swyddog Prosiect, Comisiwn Coedwigaeth

"Mae astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw yn Aberystwyth yn gwneud y cwrs yn fwy arbennig. Mae'r lleoliad yn berffaith gan fod gennych y môr a systemau dŵr croyw mewndirol yn rhedeg drwy Aberystwyth i'r môr. Mae llu o organebau amrywiol ar garreg eich drws yn Aberystwyth; mae cyfuno hynny gyda llawer o ymchwil yn y maes a'r cyfleusterau acwariwm yn gwneud y profiad cyfan yn fwy diddorol a phleserus!" Richard Harris

"Gyda'r wybodaeth a'r meddylfryd gwyddonol rwy'n eu hennill drwy fy astudiaethau, rwy'n gobeithio gallu helpu i gadw'r amgylcheddau diddorol hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cwrs wedi bod yn wych; ei brif gryfder yw ei amrywiaeth, gyda chasgliad o bynciau sy'n cael eu trafod dros y tair blynedd mewn mwy a mwy o fanylder." George William Middleton

"Rhoddodd y cwrs sylfaen dda i mi ym mhob agwedd ar fioleg y môr a dŵr croyw. Roedd digon o gyfleoedd i wneud gwaith maes yn y cwrs, gan gynnwys y prosiect traethawd hir, a wnaeth fy mharatoi ar gyfer y sgiliau arolygu sydd eu hangen yn fy swydd bresennol." Laura – Swyddog yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd

"Yn y Gymdeithas Cadwraeth Forol, rwy'n bennaeth ar y tîm cadwraeth o 17 o unigolion sy'n gweithio ar bopeth o orbysgota a'r angen am warchodfeydd morol i ddelio â'r broblem gynyddol o wastraff plastig yn y môr. Rydw i'n 37 erbyn hyn ac mae gen i atgofion melys iawn am fy amser yn Aber. Helpodd yr astudio, ond y peth pwysicaf i mi oedd fy mod wedi datblygu diddordeb yn y môr. Roedd Aber yn lle gwirioneddol wych i wneud hynny; byw ar lan y môr a chael deifio gyda chlwb is-acwa'r Brifysgol." Simon – Pennaeth Gwyddoniaeth, y Gymdeithas Cadwraeth Forol

Fe wnes i fwynhau'r cwrs yn fawr. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n haws codi i fynd i ddarlithoedd yn y bore! Yr uchafbwynt oedd y cyrsiau maes, a does dim byd yn well na chael mynd allan i wlychu'ch dwylo, boed hynny wrth gasglu samplau mewn nant fach neu wrth drawslunio traethlin sy'n llawn pyllau glan y môr. Fe wnes i wir hoffi cwmpas eang y cwrs a'r cyfle i deilwra'r cwrs drwy'r gwahanol fodiwlau opsiynol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. O'r herwydd, mae wedi rhoi sylfaen wych i mi mewn gwyddorau biolegol yn gyffredinol – sy'n hanfodol ar gyfer swydd lle mae'n rhaid i chi ystyried yr holl ecosystem ac edrych y tu hwnt i'r pysgod a'r cynefin afonol uniongyrchol. Stuart Manwaring – Swyddog Technegol Pysgodfeydd, Asiantaeth yr Amgylchedd

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 48

Safon Uwch Available to those who are studying for, or who have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC diploma) in subject areas other than biological science, and to mature-aged candidates who have the required GCSEs, experience and motivation.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
(minimum grade C/4): English or Welsh, Mathematics and Science

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to those who are studying for, or who have completed the Extended Level 3 BTEC diploma in subject areas other than biological science, or who have taken a BTEC certificate or diploma in any subject, and to mature-aged candidates who have the required GCSE subjects, experience and motivation.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to those who are studying for, or who have completed an international baccalaureate in subject areas other than higher level biological science, and to mature-aged candidates who have the required GCSE subjects (or equivalent), experience and motivation.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to those who are studying for, or who have completed the European Baccalaureate in subject areas other than 4p biological science and to mature-aged candidates who have the required GCSE subjects (or equivalent), experience and motivation.

Gofynion Iaith Saesneg See our Undergraduate English Language Requirements (https://www.aber.ac.uk/en/study-with-us/international/english-requirements/ug-english-requirements/) for this course. Pre-sessional English Programmes (https://www.aber.ac.uk/en/international-english/courses/te/) are also available for students who do not meet our English Language Requirements.

Gofynion Eraill Our inclusive admissions policy values breadth as well as depth of study. Applicants are selected on their own individual merits and offers can vary. If you would like to check the eligibility of your qualifications before submitting an application, please contact the Undergraduate Admissions Office for advice and guidance.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|