BSc

Bioleg y Môr a Dŵr Croyw (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Bioleg y Môr a Dŵr Croyw (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C166 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r radd BSc Bioleg y Môr a Dŵr Croyw ym Mhrifysgol Aberystwyth ymhlith yr ychydig rai drwy Brydain sy’n rhoi i chi ddealltwriaeth gynhwysfawr - o’r dalgylch i’r cefnfor - ynghylch y fioleg, yr ecoleg a'r ffactorau sy’n achosi straen sy'n effeithio ar yr ecosystemau hyn sydd wedi’u cydgysylltu mor agos â’i gilydd. Mae hyn yn hanfodol, o gofio eu bod yn cynnal rhai o'r rhywogaethau a'r cynefinoedd sydd o dan y bygythiad mwyaf.  

Mae Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion gyda chefnwlad sy'n gyfoeth o afonydd, nentydd a llynnoedd, yn lleoliad delfrydol i astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw. Mae cynefinoedd sy'n hawdd eu cyrraedd yn amrywio o nentydd mynydd sy'n llawn eog a brithyll a chynefinoedd unigryw ar gyfer anifeiliaid infertebraidd dŵr croyw, i aberoedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, i draethau tywodlyd, riffiau creigiog, morfeydd heli a bae sy'n gartref i'r boblogaeth breswyl fwyaf o ddolffiniaid trwyn potel oddi ar ynysoedd Prydain. 

Trosolwg o'r Cwrs


Royal Society of Biology Accredited Degree

Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol yn y technegau samplu a ddefnyddir yn yr amgylchedd dyfrol, sgiliau dadansoddi beirniadol ar ddata a thestunau academaidd, a sut mae cyflwyno eich canfyddiadau i amrywiaeth o randdeiliaid. Bydd hyn yn sicrhau eich bod wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer swyddi proffesiynol sy'n ceisio deall a mynd i'r afael â'r heriau amrywiol sy'n wynebu organebau ac ecosystemau yn y moroedd ac mewn dŵr croyw.  

I gefnogi'ch dysgu, bydd dau long ymchwil ar gael i chi eu defnyddio, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad ymarferol go iawn o'r technegau samplu a ddefnyddir gan fiolegwyr y môr a dŵr croyw proffesiynol, yn ogystal â’n systemau acwariwm ar gyfer astudiaethau arbrofol ar organebau morol a dŵr croyw.  

Mae gwaith maes a dosbarthiadau ymarferol yn rhan annatod o'r cwrs trwy gydol eich astudiaethau. Bydd opsiwn i fynd ar gwrs maes mewn dwy ganolfan breswyl yn eich blwyddyn olaf, sydd ym Mhortiwgal a'r Alban ar hyn o bryd, a fydd yn rhoi cyfle i chi ymgolli yn eich astudiaethau bioleg y môr a dŵr croyw ymhellach i ffwrdd.  

Mae’r elfen a ddysgir o’r radd Bioleg y Môr a Dŵr Croyw (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) (C166) yn union yr un peth â’r cwrs cyfatebol tair-blynedd, Bioleg y Mor a Dŵr Croyw (C164). Byddwch yn gwneud eich blwyddyn mewn diwydiant yn eich trydedd flwyddyn, ym Mhrydain neu dramor. Byddwch yn cael arolygaeth ac asesiadau ac fe fydd yn cyfrif tuag at ddosbarth eich gradd. Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant fe fyddwch yn talu ffi ddysgu lai.  

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.  

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Aquatic Botany BR25820 20
Freshwater Biology BR22020 20
Marine Biology BR22620 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Animal Behaviour BR21620 20
Environmental Microbiology and Monitoring BR26020 20
Invertebrate Zoology BR25420 20
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
Researching Behavioural Ecology BR27320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Fish Biology, Fisheries and Aquaculture BR33220 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Practical Aquatic Conservation BR37520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Freshwater Biology Field Course BR37720 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Marine Biology Field Course BR30020 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Mae gan raddedigion Bioleg y Môr a Dŵr Croyw y sgiliau a'r wybodaeth i ddilyn ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys ymgynghori ecolegol, rheoli amgylcheddol a chadwraeth, dysgu, a newyddiaduraeth wyddonol. Byddwch hefyd wedi’ch paratoi’n drylwyr ar gyfer gyrfa ymchwil wyddonol, gan barhau ag astudiaethau uwchraddedig ar lefel Meistr neu PhD.  

Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu:  

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith  
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant  
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio  
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa  
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.  

Sylwch nad yw lleoliadau gwaith ar gael yn awtomatig i bob ymgeisydd. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich lleoliad profiad gwaith eich hun, gyda chefnogaeth ein Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant a’r cynghorydd gyrfaoedd i gynyddu eich siawns o lwyddo. Os nad ydych yn llwyddo i sicrhau profiad gwaith, byddwch yn gallu trosi eich cwrs i fersiwn tair blynedd y radd BSc Bioleg y Mor a Dŵr Croyw (C164). 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf, mewn dosbarthiadau damcaniaethol ac ymarferol, byddwch yn edrych ar yr amrywiaeth anhygoel o fywyd ar y Ddaear a'r moleciwlau allweddol sy'n ffurfio popeth byw. Byddwch yn astudio ffisioleg anifeiliaid gan ddefnyddio enghreifftiau o infertebratau a fertebratau ac yn craffu ar amrywiaeth eang bywyd microbaidd. Fe edrychwch ar ecoleg a bioleg planhigion ac yn ystyried heriau'r dyfodol, megis sut mae ymateb i newid hinsawdd byd-eang a gwarchod bioamrywiaeth. Byddwch yn datblygu’ch sgiliau ymarferol yn y maes a’r labordy, ac yn magu hyder wrth gasglu a dadansoddi data gwyddonol.  

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar fioleg ac ecosystemau morol a dŵr croyw ac yn cael cyflwyniad i amrywiaeth yr algâu a’r angiosbermau dyfrol sy'n byw mewn amrywiaeth o gynefinoedd dyfrol. Byddwch yn ystyried cadwraeth ddyfrol gymhwysol ac yn meithrin profiad ymarferol o'r technegau a ddefnyddir i fonitro, cadw ac ymgymryd ag ymchwil mewn amgylcheddau dŵr bas.  

Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â’ch lleoliad profiad gwaith mewn diwydiant cysylltiedig â bioleg y môr neu ddŵr croyw. Efallai y cewch gyfle i wneud rhywfaint neu’r cyfan o’ch blwyddyn mewn diwydiant dramor, os dymunwch wneud hynny.  

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn meithrin dealltwriaeth am agweddau sylfaenol a chymhwysol ar fioleg cadwraeth pysgod, a’r rhan a chwaraeir gan bysgota detholus, dyframaeth a chadwraeth yn neinameg a chynaliadwyedd poblogaethau pysgod.  

Drwy gydol y cwrs bydd yr amrywiaeth o fodiwlau dewisol yn eich galluogi i deilwra’ch cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau chi.  

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Bydd ein cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, tiwtorialau, gwaith maes, ymarferion a chyrsiau maes preswyl. Byddwch yn cael hyfforddiant trwyadl mewn cysyniadau a dulliau gwyddonol sy'n gysylltiedig ag esblygiad ac ecoleg systemau naturiol, gyda phwyslais ar amgylcheddau morol a dŵr croyw.  

Asesiad 

Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, coflenni, posteri, portffolios, wicis, dyddiaduron myfyriol, adolygiadau llenyddiaeth, erthyglau cylchgrawn, llyfrau nodiadau maes ac arholiadau.  

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|