Mae’r radd BSc Marchnata yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn gwrs dynamig a chyffrous sy’n cyfuno elfennau o farchnata ac ymddygiad defnyddwyr, marchnata digidol, marchnata strategol, cynllunio, seicoleg, rheoli ac adnoddau dynol. Fe’i haddysgir gan arbenigwyr marchnata achrededig ac adnabyddus ac yn ystod y radd byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn am ddylanwadau allanol ar y byd marchnata a’r defnydd o dechnoleg a chyfryngau digidol, sy’n newid mor gyflym, at ddibenion marchnata.  

Mae Prifysgol Aberystwyth yn Ganolfan Porth Graddedigion y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), sy'n golygu y gallwch astudio am gymhwyster y CIM wrth i chi astudio am radd, neu gael hepgor rhai elfennau o fodiwlau'r CIM yn y dyfodol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Marchnata yn Aberystwyth?

  • Ar ôl y flwyddyn sylfaen, mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs [Marchnata, N500]; 
  • Mae ein rhaglenni wedi'u hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig. 
  • Ar ôl cwblhau'r radd yn llwyddiannus, gallwch wneud cais i gael eich eithrio rhag gorfod cyflawni 50% o Ddiploma Proffesiynol y Sefydliad Marchnata Siartredig 
  • Mae ein gradd yn eich arfogi â'r ddealltwriaeth amlddisgyblaethol o farchnata y mae cyflogwyr yn galw fwyfwy amdani; 
  • Addysgir gan arbenigwyr sy'n arwain yn y sector Marchnata ac ymchwil; 
  • Mae gennym drefniadau gyda llawer o brifysgolion partneriaethol dramor i ddarparu rhaglenni academaidd byr (2 wythnos) i grwpiau bach o fyfyrwyr rheolaeth a busnes (ar sail hunan-ariannu), i'ch galluogi i brofi effaith yr amgylchedd diwylliannol wrth gynnal busnes dramor. Ar hyn o bryd mae gennym brifysgolion partneriaethol yn India, Tsieina, Rwsia, Japan, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Brasil ac mae ein portffolio o wledydd yn ehangu'n gyflym. 
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Fundamentals of Management and Business AB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Brand Management AB27420 20
Consumer and Buyer Behaviour * AB27220 20
Marketing Management AB27120 20
Marketing: Business Relationships and Customer Experience AB27520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Digital Marketing AB37220 20
Global Marketing AB37320 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfaol: O'r Brifysgol i'r Byd Gwaith 

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried gyrfa yn y swyddi canlynol: 

  • Swyddog Marchnata 
  • Ymchwilydd Marchnata 
  • Ysgrifennwr Copi Hysbysebu 
  • Cynllunydd Cyfrifon Hysbysebu 
  • Cynllunydd yn y Cyfryngau 
  • Prynwr yn y Cyfryngau 
  • Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus. 

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon?  

Bydd astudio ein gradd mewn Marchnata yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi: 

  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio ystadegau 
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill 
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • sgiliau datrys problemau effeithiol 
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol 
  • y gallu i wneud penderfyniadau 
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm 
  • sgiliau trefnu a rheoli amser 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?  

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu? 

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn y flwyddyn sylfaen, cewch gyflwyniad i elfennau craidd Marchnata.  

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod: 

  • egwyddorion sylfaenol marchnata 
  • marchnata mewn cyd-destun busnes 
  • rheolaeth 
  • cyllid 
  • twristiaeth. 

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, gallech archwilio: 

  • cynhyrchu ymgyrchoedd 
  • strategaethau marchnata 
  • ymddygiad defnyddwyr 
  • dulliau ymchwil rheolaeth 
  • brandio 
  • marchnata busnes i fusnes 
  • rheoli perthnasau â chwsmeriaid 
  • rheoli adnoddau dynol. 

Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech astudio:  

  • marchnata a chyfathrebu 
  • natur a phwysigrwydd marchnata rhyngwladol ac ymwybyddiaeth brand byd-eang 
  • dadansoddi sefyllfaoedd marchnata yn ansoddol ac yn feintiol 
  • ffurfio cynlluniau marchnata effeithiol. 

Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect ymchwil annibynnol gorfodol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?  

Cewch eich haddysgu drwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach, a thiwtorialau. 

Byddwn yn eich asesu ar ffurf arholiadau, traethodau a asesir, prosiectau, adroddiadau, dyddiaduron myfyriol, portffolios, a chyflwyniadau. Bydd y gwaith cwrs yn datblygu eich gallu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn glir ac yn rhesymegol, a bydd seminarau yn eich helpu i fireinio eich sgiliau cyflwyno. 

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi ar gyfer eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd yr unigolyn hwn yn eich cynorthwyo â phob math o faterion, boed nhw'n academaidd ai peidio. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|