MBiol

Bioleg y Môr a Dŵr Croyw

Bioleg y Môr a Dŵr Croyw Cod C169 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r radd MBiol Bioleg y Môr a Dŵr Croyw ym Mhrifysgol Aberystwyth ymhlith yr ychydig rai drwy Brydain sy’n rhoi i chi ddealltwriaeth gynhwysfawr - o’r dalgylch i’r cefnfor - ynghylch y fioleg, yr ecoleg a'r ffactorau sy’n achosi straen sy'n effeithio ar yr ecosystemau hyn sydd wedi’u cydgysylltu mor agos â’i gilydd. Mae hyn yn hanfodol, o gofio eu bod yn cynnal rhai o'r rhywogaethau a'r cynefinoedd sydd o dan y bygythiad mwyaf.  

Mae’r gradd Meistr Integredig hon, dros bedair blynedd, yn cynnig i chi’r cyfle i gyfuno BSc â blwyddyn astudio ychwanegol fel y byddwch yn graddio â chymhwyster gradd Meistr. Bydd y cwrs yn datblygu hyd a lled eich gwybodaeth am fioleg y môr a dŵr croyw, ac yn eich paratoi at fod yn arbenigwr yn eich pwnc, fel y medwch fynd i’r afael â’r holl heriau a wynebwn ym maes dŵr heli a chroyw bedwar ban y byd. 

Mae Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion gyda chefnwlad sy'n gyfoeth o afonydd, nentydd a llynnoedd, yn lleoliad delfrydol i astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw. Mae cynefinoedd sy'n hawdd eu cyrraedd yn amrywio o nentydd mynydd sy'n llawn eog a brithyll a chynefinoedd unigryw ar gyfer anifeiliaid infertebraidd dŵr croyw, i aberoedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, i draethau tywodlyd, riffiau creigiog, morfeydd heli a bae sy'n gartref i'r boblogaeth breswyl fwyaf o ddolffiniaid trwyn potel oddi ar ynysoedd Prydain. 

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Advanced Accredited Degree

Bydd tair blynedd gyntaf y cwrs yn dilyn yr un llwybr â maes llafur BSc Bioleg y Môr a Dŵr Croyw (C164), ac fe gewch wedyn flwyddyn astudio ychwanegol; ar ôl honno byddwch yn graddio â chymhwyster gradd Meistr. Mae’r cwrs hwn wedi cael achrediad uwch gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.  

Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol yn y technegau samplu a ddefnyddir yn yr amgylchedd dyfrol, sgiliau dadansoddi beirniadol ar ddata a thestunau academaidd, a sut mae cyflwyno eich canfyddiadau i amrywiaeth o randdeiliaid. Bydd hyn yn sicrhau eich bod wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer swyddi proffesiynol sy'n ceisio deall a mynd i'r afael â'r heriau amrywiol sy'n wynebu organebau ac ecosystemau yn y moroedd ac mewn dŵr croyw.  

I gefnogi'ch dysgu, bydd dau long ymchwil ar gael i chi eu defnyddio, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad ymarferol go iawn o'r technegau samplu a ddefnyddir gan fiolegwyr y môr a dŵr croyw proffesiynol, yn ogystal â’n systemau acwariwm ar gyfer astudiaethau arbrofol ar organebau morol a dŵr croyw.  

Mae gwaith maes a dosbarthiadau ymarferol yn rhan annatod o'r cwrs trwy gydol eich astudiaethau. Bydd opsiwn i fynd ar gwrs maes mewn dwy ganolfan breswyl yn eich blwyddyn olaf, sydd ym Mhortiwgal a'r Alban ar hyn o bryd, a fydd yn rhoi cyfle i chi ymgolli yn eich astudiaethau bioleg y môr a dŵr croyw ymhellach i ffwrdd.  

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.  

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Aquatic Botany BR25820 20
Freshwater Biology BR22020 20
Marine Biology BR22620 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Animal Behaviour BR21620 20
Environmental Microbiology and Monitoring BR26020 20
Invertebrate Zoology BR25420 20
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
Researching Behavioural Ecology BR27320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Fish Biology, Fisheries and Aquaculture BR33220 20
Practical Aquatic Conservation BR37520 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Freshwater Biology Field Course BR37720 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Marine Biology Field Course BR30020 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Field and Laboratory Techniques BRM4820 20
Frontiers in the Biosciences BRM0220 20
MBiol Research Project BRM2860 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ecological Management and Conservation Biology BRM7720 20
Ecological Monitoring BRM0120 20
Fundamentals of Biodiversity BRM0020 20
Fundamentals of Remote Sensing and GIS EAM4020 20
Introduction to Environmental Law and Environmental Impact Assessment BRM6520 20
Statistical Concepts, Methods and Tools MAM5120 20

Gyrfaoedd

Mae’r radd Meistr Integredig mewn Bioleg y Môr a Dŵr Croyw wedi’i llunio i ddatblygu hyd a lled eich gwybodaeth, yn ogystal â’ch medrau a’ch hyder yn y dulliau ymchwil sydd eu hangen i ddilyn gyrfa fel gwyddonydd proffesiynol. Mae graddedigion Bioleg y Môr a Dŵr Croyw wedi meithrin y sgiliau a’r wybodaeth i allu mynd i ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys ymgynghori ecolegol a chadwraeth, dysgu a newyddiaduraeth wyddonol. Mae’r MBiol hefyd wedi’i chydnabod fel dewis arall posib yn lle gradd MSc ar gyfer mynd ymlaen i astudio am PhD, ac mae’n rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa fel gwyddonydd proffesiynol.  

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?  

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf, mewn dosbarthiadau damcaniaethol ac ymarferol, byddwch yn edrych ar yr amrywiaeth anhygoel o fywyd ar y Ddaear a'r moleciwlau allweddol sy'n ffurfio popeth byw. Byddwch yn astudio ffisioleg anifeiliaid gan ddefnyddio enghreifftiau o infertebratau a fertebratau ac yn craffu ar amrywiaeth eang bywyd microbaidd. Fe edrychwch ar ecoleg a bioleg planhigion ac yn ystyried heriau'r dyfodol, megis sut mae ymateb i newid hinsawdd byd-eang a gwarchod bioamrywiaeth. Byddwch yn datblygu’ch sgiliau ymarferol yn y maes a’r labordy, ac yn magu hyder wrth gasglu a dadansoddi data gwyddonol.  

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar fioleg ac ecosystemau morol a dŵr croyw ac yn cael cyflwyniad i amrywiaeth yr algâu a’r angiosbermau dyfrol sy'n byw mewn amrywiaeth o gynefinoedd dyfrol. Byddwch yn ystyried cadwraeth ddyfrol gymhwysol ac yn meithrin profiad ymarferol o'r technegau a ddefnyddir i fonitro, cadw ac ymgymryd ag ymchwil mewn amgylcheddau dŵr bas.  

Yn y trydedd flwyddyn, byddwch yn meithrin dealltwriaeth am agweddau sylfaenol a chymhwysol ar fioleg cadwraeth pysgod, a’r rhan a chwaraeir gan bysgota detholus, dyframaeth a chadwraeth yn neinameg a chynaliadwyedd poblogaethau pysgod.  

Yn eich blwyddyn olaf fe gewch brofiad ymarferol wrth roi ar waith ystod o dechnegau addas ar gyfer rheoli’r amgylchedd a chynnal archwiliadau biolegol ac amgylcheddol, yn rhai traddodiadol a newydd, a hynny yn y maes a’r labordy. Byddwch yn meithrin sgiliau ysgrifennu newyddiaduraeth wyddonol a chyflwyno mewn cynadleddau. Byddwch hefyd yn gwneud prosiect ymchwil ar lefel Meistr gyda chymorth arolygydd traethawd hir, a allai fod yn rhan o un o sawl grŵp ymchwil arloesol.  

Drwy gydol y cwrs bydd yr amrywiaeth o fodiwlau dewisol yn eich galluogi i deilwra’ch cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau chi.  

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Bydd ein cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, tiwtorialau, gwaith maes, ymarferion a chyrsiau maes preswyl. Byddwch yn cael hyfforddiant trwyadl mewn cysyniadau a dulliau gwyddonol sy'n gysylltiedig ag esblygiad ac ecoleg systemau naturiol, gyda phwyslais ar amgylcheddau morol a dŵr croyw.  

Asesiad 

Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, coflenni, posteri, portffolios, wicis, dyddiaduron myfyriol, adolygiadau llenyddiaeth, erthyglau cylchgrawn, llyfrau nodiadau maes ac arholiadau.  

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB with B in Biology or Human Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and a Science subject

Diploma Cenedlaethol BTEC:
BTEC not accepted for this scheme

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 6 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 in a relevant science

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|