MBiol

Biocemeg

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.

Os ydych yn dymuno astudio Biocemeg, mae'r cwrs pedair blynedd cyffrous hwn yn ddelfrydol i chi. Mae'n galluogi myfyrwyr i integreiddio tair blynedd o astudio israddedig mewn Biocemeg gyda blwyddyn arall o astudio ar lefel uwchraddedig, gan arwain at gymhwyster MBiol (Biocemeg). Mae'r cwrs yn ddelfrydol os ydych yn dyheu am yrfa fel gwyddonydd ymchwil mewn Biocemeg neu'n dymuno gwthio eich gwybodaeth Biocemeg i lefel uwch.

  • Cwrs pedair blynedd integredig sy'n arwain at gymhwyster uwchraddedig
  • Delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno datblygu i lefelau academaidd uwch
  • Prosiect ymchwil unigol sy'n elfen bwysig o'r flwyddyn olaf
  • Mae'r cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad at bedair blynedd o gyllid myfyrwyr.

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Advanced Accredited Degree

Mae’r cwrs pum mlynedd hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig, wedi'r flwyddyn honno mae'r cwrs yr un fath a'r cwrs pedair blynedd safonol, Mbiol Biocemeg (C709).

Dyfarnwyd statws Achrediad Uwch Interim i'r cwrs hwn. Bydd hyn yn dod yn statws Achrediad Uwch pan fydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio o'r cyrsiau gradd MBiol yn ystod haf 2018 (yn amodol ar gadarnhad terfynol gan Gymdeithas Frenhinol Bioleg).

Pam astudio MBiol Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi wrth astudio bioleg gellog, foleciwlaidd a chemegol.
  • Byddwn yn meithrin eich chwilfrydedd deallusol a'ch ymarfer gwyddonol cyffredinol.
  • Caiff y pwnc ei addysgu gan arbenigwyr ym maes Biocemeg mewn canolfan ragoriaeth sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
  • Mae gan y Brifysgol gyfleusterau addysgu modern, ac mae wedi buddsoddi dros £55 miliwn o bunnoedd ynddynt.
  • Mae ein staff addysgu Biocemeg yn cael eu cydnabod fel addysgwyr arbenigol ac arloesol.

Hoffech chi astudio yn Gymraeg?

Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnwch i'r adran am ragor o fanylion.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Gyrfaoedd

Cyflogadwyedd

Ar ôl cwblhau'r cwrs MBiol Biocemeg yn llwyddiannus, byddwch wedi gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd drwy ennill cymhwyster Meistr. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi?

Mae rhai o'n graddedigion wedi dilyn llwybrau gyrfa gyda'r canlynol: 

  • GlaxoSmithKline
  • Astra Zeneca
  • Addysg
  • Ymchwil
  • Labordai

Beth fydda i'n ei gael o'm gradd?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymdeithas Fiocemegol, sy'n llwyfan gwych i fyfyrwyr rwydweithio gydag eraill yn eu disgyblaeth.

Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol: 

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • Sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
  • y gallu i weithio'n annibynnol;
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser a'r gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a strwythuredig, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
  • gweithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio amrywiaeth y disgyblaethau biolegol sy'n cynnwys:

  • Adeiladwaith a swyddogaeth planhigion;
  • Anifeiliaid a microbau ar lefel moleciwlau, organebau a chelloedd;
  • Anifeiliaid fertebrat ac infertebratau mawr a fydd yn canolbwyntio ar ffisioleg, cyhyrau ac ymsymudiad, maetheg, endocrinoleg, systemau anadlu cardiofasgwlaidd a homeostasis;
  • Amrywiaeth microbaidd;
  • Llystyfiant ac ecosystemau.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • Bioleg celloedd;
  • Imiwnoleg;
  • Cromosomau;
  • Bioleg foleciwlaidd;
  • Gweithdrefnau Ansoddol a Meintiol dadansoddi data.

Yn eich trydedd flwyddyn, cewch astudio ac ymgymryd â'r canlynol:

  • Biowybodeg;
  • Genomeg;
  • Ffarmacoleg;
  • Microbau;
  • Traethawd hir gorfodol.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech:

  • Ymgymryd â phrosiect Ymchwil MBiol;
  • Cymryd rhan mewn technegau maes a labordy; 
  • Archwilio arloesedd yn y Biowyddorau.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. 

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Llyfrau nodiadau maes
  • Arholiadau


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|