Microbioleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C502 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
C502-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
46%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrRhowch hwb i'ch gyrfa a’r dechrau gorau i'ch rhagolygon gyrfa gyda’n gradd BSc Microbioleg gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi mantais i chi mewn marchnad swyddi sy’n gynyddol gystadleuol. Bydd y flwyddyn lle byddwch i ffwrdd o’r Campws yn gweithio mewn diwydiant yn rhoi ichi’r ddealltwriaeth, yr wybodaeth a’r profiad y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.
Bydd y cwrs gradd BSc Microbioleg yn eich cyflwyno i fyd rhyfeddol bacteria, ffyngau a firysau, a'u rôl mewn clefydau heintus sy’n effeithio ar bobl, anifeiliaid a phlanhigion. Mae micro-organebau, a elwir hefyd yn feicrobau, yn organebau sydd yn rhy fach i'w gweld gyda’r llygad ac maent yn hanfodol i'n dealltwriaeth o fywyd ar y Ddaear. Cewch ddysgu sut mae’r micro-organebau hyn wedi dylanwadu ar bob agwedd ar ein bywydau, o’r aer a anadlwn i'r bwyd a fwytawn. Ar ein gradd BSc Microbioleg byddwch yn datblygu'r sgiliau gwyddonol a dadansoddol y mae galw mawr amdanynt ymhlith ystod eang o feysydd gwaith, ac os ydych chi’n dymuno bod yn rhan o ddatrys problemau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd, llygredd ac ymwrthedd i wrthfiotigau, mae gradd mewn Microbioleg yn fan cychwyn da.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Bioleg Celloedd | BG17520 | 20 |
Ecoleg a Chadwraeth | BG19320 | 20 |
Genetics, Evolution and Diversity | BR17120 | 20 |
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion | BG19920 | 20 |
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr | BG16820 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Biological chemistry | BR17320 | 20 |
Disease Diagnosis and Control | BR15420 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol | BG26020 | 20 |
One Health Microbiology | BR26520 | 20 |
Practical and Professional Skills in Microbiology | BR24720 | 20 |
Dulliau Ymchwil | BG27520 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Applied Molecular Biology and Bioinformatics | BR20620 | 20 |
Cell and Cancer Biology | BR25920 | 20 |
Immunology | BR22220 | 20 |
Proteins and Enzymes | BR26620 | 20 |
Pynciau llosg yn y Biowyddorau | BG21720 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Integrated Year in Industry | BRS0060 | 60 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Microbial Pathogenesis | BR33720 | 20 |
Biotechnology | BR35520 | 20 |
Traethawd Estynedig | BG36440 | 40 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Bioinformatics and Functional Genomics | BR37120 | 20 |
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol | BG36620 | 20 |
Molecular Pharmacology | BR36120 | 20 |
Terrestrial Ecology Fieldcourse | BR36620 | 20 |
Veterinary Infectious Diseases | BR34120 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|