BSc

Bioleg Planhigion

Mae gan raddedigion Bioleg Planhigion gyfleoedd gyrfaol gwych, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn lle delfrydol ar gyfer cam cyntaf eich gyrfa. Rydym yn gartref i raglenni bridio planhigion a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gweiriau sy’n uchel o ran siwgr, adnoddau a chronfeydd data geneteg planhigion, gerddi botaneg, a’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion.

Trwy ddilyn y radd hon byddwch yn astudio pob agwedd ar fywyd planhigion, o’r moleciwlaidd i’r ecolegol, ac ar yr un pryd yn archwilio materion byd-eang sy’n ymwneud â phlanhigion. Byddwch yn ystyried sut y gall technoleg sy’n seiliedig ar blanhigion ein cynorthwyo i wynebu her poblogaeth ddynol sy’n tyfu a bygythiadau’r dyfodol, yn cynnwys diogelwch bwyd a newid yn yr hinsawdd.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs pedair blynedd hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig, wedi'r flwyddyn honno mae'r cwrs yr un fath a'r cwrs tair blynedd safonol, BSc Bioleg Planhigion (C200).

Pam astudio Bioleg Planhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • gyfleusterau o safon fyd-eang gan gynnwys gerddi botaneg gydag amrywiaeth eang o blanhigion tymherus a throfannol, amrywiaeth eang o ystafelloedd tyfu a thai gwydr, ac amgueddfa o sbesimenau botanegol hanesyddol
  • mynediad at y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol a’r posibilrwydd o ymwneud â’n rhaglenni bridio planhigion sy’n arwain y byd
  • llu o gyfleoedd am waith maes, gan gynnwys y posibilrwydd o astudio fflora Tymherus, Trofannol ac Arctig-Alpinaidd
  • cynefinoedd prydferth, sy’n cynnig amrywiaeth ryfeddol o gyfleoedd gwaith maes a hamdden
  • amryw o gyfleoedd gwaith maes, gan gynnwys y posibilrwydd o astudio fflora tymherus, trofannol ac Arctig-Alpaidd.


Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication Skills BR01520 20
Molecules and Cells BR01340 40
Organisms and the Environment BR01440 40
Practical Skills for Biologists BR01220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol BG18040 40
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Controlled Environment Crop Production and Horticulture BR23520 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Arolygu Bywyd Gwyllt BG29620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Aquatic Botany BR25820 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Frontiers in Plant Science BR35820 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Sustainable Land Management BR30420 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20

Gyrfaoedd

Mae’r cyfleoedd gyrfa ar gyfer gwyddonwyr planhigion yn wirioneddol ragorol, gyda llawer o swyddi a dim ond ychydig o wyddonwyr hyfforddedig yn y maes hwn. Mae ein Hathrofa mewn sefyllfa berffaith i’ch helpu i fanteisio ar gysylltiadau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ein graddedigion yn gweithio ym maes rheoli cadwraeth, mewn athrofeydd ymchwil planhigion dan nawdd y Llywodraeth a rhai diwydiannol, ac yn y gwasanaeth sifil gwyddonol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hennill wrth astudio Bioleg Planhigion?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen eang i chi mewn bioleg, a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Ffisioleg Planhigion;
  • Geneteg Planhigion;
  • Bioleg Celloedd Planhigion;
  • Y Biosffer;
  • Deall sut mae Ecosystemau'n gweithio;
  • Bioleg Pridd.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modiwlau sy'n canolbwyntio ar Blanhigion, sy'n cynnwys y meysydd canlynol:

  • Effaith newid yn yr hinsawdd ar Blanhigion;
  • Adnabod Planhigion ac Arolygu Ecolegol (ym Mhrydain a thramor);
  • Agronomeg a Gwella Cnydau;
  • Bioleg Foleciwlaidd a Biowybodeg;
  • Planhigion Dyfrol.

Yn eich trydedd flwyddyn, bydd y meysydd pwnc sydd ar gael yn cynnwys:

  • Gwyddor Planhigion Cymhwysol (Bridio Glaswellt Porthiant, Cnydau Ynni, Biotechnoleg);
  • Pathogenau Planhigion;
  • Adnabod Planhigion ac Arolygu Ecolegol (ym Mhrydain a thramor);
  • Biowybodeg a Genomeg Swyddogaethol;
  • Cynhyrchu Glaswelltir a Chnydau;
  • Systemau Amaethyddol ac Amgylcheddol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Llyfrau nodiadau maes
  • Arholiadau


Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r cwrs yn wych, rwy'n cael astudio ystod eang o bynciau sy'n fy ngalluogi i i deilwra fy modiwlau i'm chwaeth fy hun, a sicrhau bod fy nghwrs gradd yn cyd-fynd â'm diddordebau a'm hanghenion. Elizabeth Smith

Mae'r cwrs yn eang iawn ac mae'n darparu ar gyfer diddordebau unrhyw un sy'n dymuno astudio bioleg. Mae'r modiwlau yn yr ail flwyddyn yn eich galluogi i arbenigo mewn meysydd pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae hyblygrwydd y cynllun gradd yn ddeniadol iawn i ddarpar fyfyrwyr nad ydyn nhw'n siŵr eto ble mae eu gwir ddiddordebau. Mae'r elfennau ymarferol yn amrywiol ac wedi'u gwasgaru'n dda dros y flwyddyn academaidd ac yn atgyfnerthu'r deunydd darlithio. Jodie Ackland

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and Science ((minimum grade C/4)

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|