BSc

Bioloeg Planhigion

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.

Mae planhigion yn darparu sylfaen hanfodol ar gyfer bywyd ar y ddaear, ac mae ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae o ran datrys rhai o'r problemau mwyaf difrifol sy'n wynebu'r hil ddynol, megis prinder bwyd ac allyriadau carbon cynyddol. Ni fu erioed o'r blaen gymaint o frys i hyfforddi cenhedlaeth newydd o fiolegwyr planhigion a all ddatblygu technolegau a dulliau i ymateb i'r heriau hyn yn y dyfodol. Trwy ddilyn y radd hon byddwch yn astudio pob agwedd ar fywyd planhigion, o’r moleciwlaidd i’r ecolegol, ac ar yr un pryd yn archwilio materion byd-eang sy’n ymwneud â phlanhigion. Byddwch yn ystyried sut y gall technoleg sy’n seiliedig ar blanhigion ein cynorthwyo i wynebu her poblogaeth ddynol sy’n tyfu a bygythiadau’r dyfodol, yn cynnwys diogelwch bwyd a newid yn yr hinsawdd. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs pedair blynedd hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig, wedi'r flwyddyn honno mae'r cwrs yr un fath a'r cwrs tair blynedd safonol, BSc Bioleg Planhigion (C200).

Pam astudio Bioleg Planhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Dewch i ddysgu a byw mewn amgylchedd eithriadol lle byddwch wedi'ch amgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau prydferth, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, dyfrffyrdd, glaswelltir ac arfordir.
  • Gallwch ymchwilio i feysydd megis ffisioleg planhigion, geneteg, agronomeg, gwyddor cnydau, ecoleg, diogelu'r cyflenwad bwyd ac effeithiau newid hinsawdd byd-eang.
  • Byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol mewn sgiliau maes a labordy.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr adnabyddus sy'n arwain yn y maes.
  • Cewch ddefnyddio'r Uned Gwasanaethau Biolegol, Sbectromedr Màs, Uned Ddadansoddol, labordy Modelu, y labordy Biolegol Cyfrifiadol, Labordy Microsgopeg Uwch a Bioddelweddu.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication Skills BR01520 20
Molecules and Cells BR01340 40
Organisms and the Environment BR01440 40
Practical Skills for Biologists BR01220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol BG18040 40
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Controlled Environment Crop Production and Horticulture BR23520 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Aquatic Botany BR25820 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Frontiers in Plant Science BR35820 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Sustainable Land Management BR30420 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20

Gyrfaoedd

Beth mae ein graddedigion yn ei wneud erbyn hyn?

Gall myfyrwyr ddilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Cynhyrchu Garddwriaethol / Amaethyddol;
  • Arolygu cynefinoedd a Chadwraeth;
  • Addysg ac ymgysylltu â'r cyhoedd;
  • Bridio planhigion;
  • Biotechnoleg Planhigion;
  • Ymgynghorwyr;
  • Ymchwil planhigion – swydd raddedig;
  • Ymchwil PhD.

Ar ôl graddio, mae ein myfyrwyr mewn sefyllfa ddelfrydol i anelu at gyflogaeth gyda'r sefydliadau canlynol:

  • Sefydliad Botaneg Amaethyddol Cenedlaethol;
  • Asiantaeth yr Amgylchedd;
  • Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
  • Parciau Cenedlaethol;
  • Gerddi Botaneg (e.e. Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Kew);
  • Y Comisiwn Coedwigaeth;
  • Cwmnïau bridio planhigion;
  • Cwmnïau biotechnoleg;
  • Sefydliadau Bwyd-Amaeth.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hennill wrth astudio Bioleg Planhigion?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
  • y gallu i weithio'n annibynnol;
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen eang i chi mewn bioleg, a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Ffisioleg Planhigion;
  • Geneteg Planhigion;
  • Bioleg Celloedd Planhigion;
  • Y Biosffer;
  • Deall sut mae Ecosystemau'n gweithio;
  • Bioleg Pridd.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modiwlau sy'n canolbwyntio ar Blanhigion, sy'n cynnwys y meysydd canlynol:

  • Effaith newid yn yr hinsawdd ar Blanhigion;
  • Adnabod Planhigion ac Arolygu Ecolegol (ym Mhrydain a thramor);
  • Agronomeg a Gwella Cnydau;
  • Bioleg Foleciwlaidd a Biowybodeg;
  • Planhigion Dyfrol.

Yn eich trydedd flwyddyn, bydd y meysydd pwnc sydd ar gael yn cynnwys:

  • Gwyddor Planhigion Cymhwysol (Bridio Glaswellt Porthiant, Cnydau Ynni, Biotechnoleg);
  • Pathogenau Planhigion;
  • Adnabod Planhigion ac Arolygu Ecolegol (ym Mhrydain a thramor);
  • Biowybodeg a Genomeg Swyddogaethol;
  • Cynhyrchu Glaswelltir a Chnydau;
  • Systemau Amaethyddol ac Amgylcheddol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Llyfrau nodiadau maes
  • Arholiadau


Tystiolaeth Myfyrwyr

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and Science ((minimum grade C/4)

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|