BSc

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cod C60F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Rhowch ddechrau i'ch cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda ni. Mae Blwyddyn Sylfaen integredig y cynllun hwn yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr, nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol, i ddod i ddeall Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, gan roi sylfaen gadarn iddynt fynd ymlaen i astudio cymhwyster gradd lawn i israddedigion.

Mae gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i hardystio gan Gymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES). Mae ein cwrs gradd yn rhyngddisgyblaethol ac yn amlddisgyblaethol ei natur. Rydym yn cyfuno disgyblaethau fel Ffisioleg, Seicoleg a Biomecaneg. Mae'r radd yn eich paratoi i gefnogi athletwyr, i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd, ac i ddarparu rhaglenni ymarfer corff yn ogystal â datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, ymchwilio, dadansoddi data, a'ch sgiliau personol.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi'r cyfle gorau i chi mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, byddwch wedi datblygu'r sgiliau gweithio a'r ymwybyddiaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Ar ôl y flwyddyn sylfaen, mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (C600);
  • Gall myfyrwyr ddewis gwneud blwyddyn mewn diwydiant. Yn yr achos hwn, bydd disgwyl i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd. Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich talu am y profiad gwaith, ac os na allwch gael lleoliad, byddwch yn cwblhau'r radd fel myfyriwr na ddewisodd wneud blwyddyn mewn diwydiant;
  • Yn ystod eich blwyddyn o brofiad gwaith, byddwch yn talu ffioedd dysgu gostyngol, a gellir dod o hyd i'r wybodaeth yma.
  • Mae bodlonrwydd myfyrwyr ar ein cwrs C600 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn 100% (ACF 2018);
  • Mae ein cwrs gradd yn canolbwyntio ar wneud dadansoddiadau gwyddonol o sut mae'r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn gwneud chwaraeon;
  • Cewch gyfle i archwilio gwyddorau Biomecaneg, Ffisioleg a Seicoleg;
  • Byddwch yn dysgu sut i wneud i athletwr neu dîm unigol berfformio ar eu gorau;
  • Bydd ein gradd yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r ffyrdd y gallwn wella iechyd a lles cyffredinol drwy ymarfer corff;
  • Byddwch yn gallu dysgu drwy ddefnyddio cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf, sydd wedi'u hachredu gan Gymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES);
  • Cewch fynediad i gyfleusterau chwaraeon gwych ar y campws;
  • Mae amrywiaeth o gampau y mae staff a myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt, sy'n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau mewn cynnig cymorth i athletwyr.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication Skills BR01520 20
Molecules and Cells BR01340 40
Organisms and the Environment BR01440 40
Practical Skills for Biologists BR01200

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applying evidence based interventions BR21220 20
Motor Learning and Performance BR26420 20
Physical Activity for Health BR27020 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Sport & Exercise Physiology BR27420 20
Sport and Exercise Nutrition BR22520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Consultancy work BR37620 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Training and Performance Enhancement BR34420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Sports Nutrition BR30920 20
Injury and Rehabilitation BR32020 20
Technological advances in sport, exercise and health BR37420 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd gyrfa sydd ar gael i mi?

Mae modd trosglwyddo'r sgiliau a'r wybodaeth rydych yn eu dysgu wrth astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff i amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol. Mae ein graddedigion wedi datblygu gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Meysydd chwaraeon proffesiynol
  • Hyfforddiant personol
  • Cyrff Llywodraethu Campau
  • Gofal iechyd
  • Addysg Gorfforol
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Pa sgiliau bydda i'n eu meithrin o'm gradd?

Yn ystod eich gradd, byddwch yn datblygu llawer o sgiliau mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi:

  • Sgiliau cyfathrebu a ddatblygir drwy gyflwyniadau llafar ac ysgrifennu;
  • Gwaith tîm a'r gallu i weithio'n annibynnol;
  • Sgiliau dadansoddol;
  • Sgiliau mathemategol;
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • Sgiliau technoleg gwybodaeth;
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a Chynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Deilliannau Dysgu

Mae pob modiwl y byddwch yn ei astudio fel rhan o'r radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'u datblygu i gyfrannu at ddeilliannau dysgu'r radd. Bydd pob modiwl yn cyfrannu at ddeilliannau dysgu penodol a byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau uwch wrth i chi ddatblygu. Yn ystod y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ddewis modiwlau penodol sydd agosaf at eich maes diddordeb, a chwblhau traethawd ymchwil ar bwnc o'ch dewis.

Amser Cyswllt a Hunan-astudio

Cewch eich addysgu drwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau gan ein staff profiadol ac ymroddgar, ond hefyd drwy brosiectau, gweithdai, sesiynau datrys problemau a thiwtorialau sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae dosbarthiadau yn y labordy yn rhan sylweddol o'r cwrs a byddwch yn dod yn fedrus wrth ddefnyddio offer gwyddonol ar gyfer cynnal profion ffitrwydd a dadansoddi symudiad soffistigedig. Caiff pob modiwl ei ategu gan adnoddau electronig i'ch helpu i astudio y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Mae'r asesiadau yn seiliedig ar gyfuniad o draethodau, gwaith cwrs, adroddiadau labordy, cwisiau, astudiaethau achos, portffolios, posteri, cyflwyniadau ac arholiadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics (grade 4, new grading system in England)

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|