BSc

Biocemeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Biocemeg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C701 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r radd Biocemeg yn rhoi pwyslais arbennig ar y sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn y diwydiannau fferyllol a biotechnoleg. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn edrych ar y technegau sydd wedi chwyldroi’r modd y mae bioleg celloedd, cemeg fiolegol, metabolaeth a geneteg foleciwlaidd yn cael eu hastudio, trwy gyfrwng hyfforddiant arbenigol mewn protocol gwyddonol a gwaith ymarferol yn y labordy. Byddwch hefyd yn gweithio ar dasgau a gynlluniwyd i efelychu gofynion ymarfer proffesiynol ym maes biocemeg.

Byddwch yn edrych ar strwythurau a swyddogaethau'r moleciwlau sy'n creu cell ac yn deall y modd y maent yn rhyngweithio mewn prosesau byw. Mae ein darlithwyr yn weithgar ym maes ymchwil, ac mae ganddynt brofiad uniongyrchol o ddarganfod cyffuriau, ymchwilio i dechnegau diagnostig, synthesis gweithredol cyfansoddion, a mwy.

Trosolwg o'r Cwrs

The taught component of the Biochemistry with integrated year in industry course (C701) is identical to its three-year sister course BSc Biochemistry (C700). The year in industry is taken in your third year, is supervised and assessed, and will count towards your degree grade. During your year in industry, you will pay a discounted tuition fee.

Why study Biochemistry at Aberystwyth University?

  • This degree will give you a solid foundation in the study of cellular, molecular and chemical biology.
  • You will become familiar with the application of molecular techniques including DNA extraction, sequencing and analysis; gel electrophoresis for the separation and functional analysis of proteins; and biophysical characterisation of enzyme-catalysed reaction kinetics and thermodynamics.
  • The University has extensive research and teaching labs equipped with the latest equipment, including bioimaging facilities, high-throughput DNA sequencing, proteomics, metabolomics and spectroscopic platforms.
  • Our Biochemistry teaching staff are recognised as expert and innovative educators.

Other courses which may be of interest to you include MBiol Biochemistry (C709) and BSc in Genetics and Biochemistry (CC47).

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Biological chemistry BR17320 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Microbial Diversity and Disease BR19020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Cell and Cancer Biology BR25920 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Practical Skills for Biochemists BR22920 20
Proteins and Enzymes BR26620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Chromosome Dynamics BR21820 20
Evolution and Molecular Systematics BR21720 20
Immunology BR22220 20
One Health Microbiology BR26520 20
Practical and Professional Skills in Microbiology BR24720 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20
Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg BG24720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60
Integrated Year in Industry BRS0160 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biotechnology BR35520 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Molecular Pharmacology BR36120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Molecular Biology of Development BR36020 20

Gyrfaoedd

Fel un o raddedigion y radd hon, byddwch wedi datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i weithio'n ddiogel ac yn annibynnol mewn amgylcheddau ymchwil a labordai diwydiannol. Byddwch felly wedi cael eich paratoi’n dda ar gyfer gyrfa yn y diwydiant fferyllol a biotechnoleg. Mae llawer o’n graddedigion hefyd yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn addysg, neu’n astudio ymhellach ar lefel Meistr neu PhD.

Beth fydda i'n ei gael o'm gradd?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymdeithas Fiocemegol, sy'n llwyfan gwych i fyfyrwyr rwydweithio gydag eraill yn eu disgyblaeth.

Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol: 

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
  • y gallu i weithio'n annibynnol;
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser a'r gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a strwythuredig, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
  • gweithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:

  • i gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
  • i wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
  • i ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
  • i gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
  • i wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio amrywiaeth y disgyblaethau biolegol sy'n cynnwys:

  • Adeiladwaith a swyddogaeth planhigion
  • Anifeiliaid a microbau ar lefel moleciwlau, organebau a chelloedd
  • Anifeiliaid fertebrat ac infertebratau mawr a fydd yn canolbwyntio ar ffisioleg, cyhyrau ac ymsymudiad, maetheg, endocrinoleg, systemau anadlu cardiofasgwlaidd a homeostasis
  • Amrywiaeth microbaidd  
  • Llystyfiant ac ecosystemau.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • Bioleg celloedd
  • Imiwnoleg
  • Cromosomau
  • Bioleg foleciwlaidd
  • Gweithdrefnau Ansoddol a Meintiol dadansoddi data

Yn eich trydedd flwyddyn

  • Byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn mewn diwydiant.

Yn eich flwyddyn olaf, byddwch yn astudio ac yn ymgymryd â'r canlynol:

  • Biowybodeg
  • Genomeg
  • Ffarmacoleg
  • Microbau
  • Traethawd hir gorfodol

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion. 

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Llyfrau nodiadau maes
  • Arholiadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC with B in Chemistry

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Chemistry at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Chemistry

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|